Rhybudd am losgi bwriadol ar ôl arestio pedwar
Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân wedi cyhoeddi rhybudd ar y cyd am beryglon llosgi bwriadol ar ôl arestio pedwar o bobl ifanc yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod "pedwar bachgen ifanc" wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiadau ar wahân yn ymwneud â llosgi bwriadol yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Fe gafodd bechgyn 14 a 15 oed eu harestio mewn cysylltiad â chychwyn tân yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Bethany ar Heol yr Orsaf Port Talbot ddydd Iau bythefnos yn ôl.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS) eu bod nhw hefyd wedi bod yn "eithriadol o brysur" yn ddiweddar wrth ymateb i danau gwyllt wedi'u cychwyn yn fwriadol.
Dywedodd Scott O’Kelly, pennaeth lleihau llosgi bwriadol a rheolwr gorsaf: "Yn anffodus, mae MAWWFRS wedi ymateb yn ddiweddar i gyfres o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â llosgi bwriadol, sy'n amrywio o danau gwyllt i danau mewn eiddo gwag.
"Rydym yn parhau i weithio gyda thrigolion a phartneriaid yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau llosgi bwriadol a chyfyngu ar effaith ddinistriol tanau bwriadol."
Ychwanegodd yr Arolygydd Jared Easton, o Heddlu De Cymru: "Mae cynnau tanau yn beryglus ac yn erbyn y gyfraith.
“Mae pedwar bachgen ifanc wedi cael eu harestio am danau bwriadol ar wahân yn ardal Port Talbot yn ystod y tair wythnos diwethaf.
“Ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad hwn a byddwn yn delio'n gadarn â phobl sy'n cyflawni'r troseddau hyn.”