Newyddion S4C

Caerdydd: Pryder y gall diwygio gwasanaethau bws amharu ar drafnidiaeth ysgol

bws caerdydd.png

Mae pryder y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bysiau effeithio ar drafnidiaeth ysgol yn y brifddinas.

Clywodd Cyngor Caerdydd fod pryder na fydd cwmnïau bws fel Bws Caerdydd yn gallu cystadlu am gytundebau trafnidiaeth ysgolion yn erbyn cwmnïau mwy o faint.

Fel rhan o Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella teithio ar fysiau drwy nifer o fesurau gan gynnwys cyflwyno masnachfreinio (franchise) bysiau.

Mewn cyfarfod pwyllgor craffu amgylcheddol Cyngor Caerdydd dywedodd aelod o gabinet y cyngor bod yr awdurdod lleol yn croesawu'r mesur ond bod rhai pryderon yn ei gylch.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, aelod cabinet Cyngor Caerdydd dros y newid yn yr hinsawdd, cynllunio strategol a thrafnidiaeth: “Rydym yn meddwl ei fod yn gadarnhaol iawn, ond mae yna rai pethau yn ein barn ni sy’n heriau ac mewn ychydig o rannau ohono nid ydym yn glir iawn o hyd sut y byddant yn gweithio.”

Byddai masnachfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn golygu y byddai penderfyniadau ar bethau fel llwybrau, amserlenni a phrisiau’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru (TrC) a byddai gweithredwyr preifat yn gwneud cais am gontractau i redeg gwasanaethau.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn ymwybodol o’r manteision posibl hyn, ond mae hefyd yn meddwl bod cwestiynau heb eu hateb ynghylch pethau fel sut y caiff cynlluniau Llywodraeth Cymru eu hariannu’n llawn a sut y gallai effeithio ar gwmnïau bysiau trefol, fel Bws Caerdydd, sy’n gweithredu llawer o’r teithiau o’r cartref i’r ysgol yn y ddinas.

'Risg'

Ychwanegodd y Cynghorydd De’Ath: “Rydyn ni’n meddwl y bydd angen buddsoddiad sylweddol i weithredu hyn yn llwyddiannus oherwydd gallai’r costau fod yn uwch o bosibl ac nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo rhagor o adnoddau gyda’r refeniw neu’r cyfalaf i ariannu diwygio bysiau.

“Rydyn ni’n meddwl bod yna risg posib… yn hynny o beth.”

Dywedodd y Cynghorydd De’Ath y gallai cwmnïau bysiau’r brifddinas ei chael hi’n anodd cystadlu am gontractau masnachfreinio oherwydd nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys peidio â meddu ar yr un lefel o arbenigedd o gymharu â chwmnïau mwy ledled y DU.

Dywedodd rheolwr gweithredol datblygu trafnidiaeth a rheoli rhwydwaith Cyngor Caerdydd, Jason Dixon: “Mae yna risg y bydd Bws Caerdydd yn methu ag ennill digon o gontractau i fod yn fusnes hyfyw.

“Os yw hynny’n digwydd yna… mae ein cludiant o’r cartref i’r ysgol yn dod mewn perygl oherwydd ein bod yn ddibynnol iawn ar y cwmnïau bach i ddarparu’r gwasanaethau hynny.”

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yw dydd Mawrth, Mai 13.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.