Newyddion S4C

Prif Arglwydd y Morlys am ‘gamu’n ôl’ yn dilyn adroddiadau o ‘berthynas gyda swyddog o dan ei reolaeth’

Syr Ben Key

Mae pennaeth y Llynges Frenhinol wedi camu’n ôl o’i ddyletswyddau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i adroddiadau ei fod wedi cael perthynas honedig â swyddog o dan ei reolaeth.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi cadarnhau fod ymchwiliad "yn mynd rhagddo" i Brif Arglwydd y Morlys, y Llyngesydd Syr Benjamin Key, 59 oed.

Yn ôl adroddiadau roedd disgwyl i Syr Benjamin ymddeol yr haf hwn ond deellir ei fod wedi gorfod camu nôl o’i rôl tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Yn ôl adroddiadau mae’r ymchwiliad yn ymwneud â honiad o berthynas amhriodol gyda swyddog benywaidd o dan ei reolaeth, gan dorri “prawf gwasanaeth” y Llynges.

Mae’r tad priod i dri, sydd wedi gwasanaethu yn y Llynges ers 40 mlynedd, wedi bod yn ei swydd fel Arglwydd y Môr Cyntaf ers 2021.

Mae Ail Arglwydd y Morlys, yr Is-Lyngesydd Syr Martin Connell, wedi cymryd rheolaeth ar y Llynges yn ei le.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Mae ymchwiliad yn parhau a byddai’n amhriodol gwneud sylw ar hyn o bryd.”

Prif Arglwydd y Morlys sy'n gyfrifol am effeithiolrwydd ymladd, effeithlonrwydd a morâl y llynges.

Llun: MoD

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.