India a Phacistan yn cyhuddo ei gilydd o danio taflegrau
Mae tensiynau'n codi rhwng India a Phacistan yn Kashmir wrth i lywodraethau'r ddwy wlad gyhuddo ei gilydd o danio taflegrau.
Mae India wedi cyhuddo Pacistan o ddefnyddio taflegrau i dargedu ei chanolfannau milwrol, oriau ar ôl i Bacistan gyhuddo India o danio tri thaflegryn o'i meysydd awyr milwrol.
Mae byddin India wedi cyhuddo Pacistan o "ddwysáu" a bod yn "bryfoclyd" tra bod byddin Pacistan yn honni eu bod wedi dinistrio rhai o systemau amddiffyn India - rhywbeth mae Delhi yn ei wadu.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe darodd India dargedau ym Mhacistan a Kashmir sy’n cael ei weinyddu gan Bacistan mewn ymateb i ymosodiad terfysgol ar dwristiaid Indiaidd yn Pahalgam y mis diwethaf. Mae Islamabad wedi gwadu cymryd rhan.
Mae'r ddwy ochr yn cyhuddo ei gilydd o saethu ar draws y ffin ac ymosodiadau taflegrau a dronau ers i India weithredu’n filwrol.
Mae Kashmir sy’n cael ei weinyddu gan India wedi gweld gwrthryfel am ddegawdau gyda miloedd o bobl wedi eu lladd.
Mae India a Phacistan yn hawlio Kashmir yn llawn.
Llun: X/Defence_PK99