Dyn ifanc o Langefni yn galw am sefydlu hwb ieuenctid yn y dref
Dyn ifanc o Langefni yn galw am sefydlu hwb ieuenctid yn y dref
Mae dyn ifanc o Langefni ar Ynys Môn yn galw am sefydlu hwb ieuenctid yn y dref.
Yn 21 oed, mae Kian Cleator wedi byw yn y dref ar hyd ei oes.
Er ei fod wedi gadael Ynys Môn i ddilyn cyfleoedd gwaith yn y gorffennol, mae Kian bellach yn awyddus i greu hwb lle mae modd i bobl ifanc ddod at ei gilydd a chymdeithasu.
"Pan o'n i'n oed y bobl ifanc yma, o'n i'n broblem yn fwy na priority," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi isio sefydlu lle ble mae'r plant yn gallu bod yn nhw'u hunain... a dwi'n meddwl oherwydd mae 'na lack of opportunity yn y dref 'ma, mae'r plant yn desperate ac maen nhw angen lle maen nhw'n gallu gwella a thyfu i fod y fersiynau gorau o'u hunain.
"S’na‘m byd yma - ma’ ‘na football, rygbi, petha fel ’na ag os ti’n hoffi football neu rygbi, ma’ hynna’n iawn, grêt, ffantastig."
Mae Kian yn cyfaddef iddo golli ychydig o gyfeiriad pan yn hogyn ifanc.
"Ma’ bob plant yn gwahanol a dwi’n meddwl bod pan o’n i’n tyfu fyny, o’n i ddim yn gwybod be o’n i isio ddim clem at all. So o’n i’n spendio lot o amsar jyst yn roamio rownd a jyst bod yn niwsans," meddai.
"O’n i bob tro yn cario parch at bobl ond as a whole, ma’ pobl yn gweld gang of youths ac maen nhw’n meddwl ‘Oh God.’
"Ond ddim nhw ydi’r broblem, y lack of opportunities di’r broblem."
Mae ffrind Kian, Gruffydd Huws, hefyd o blaid sefydlu hwb ieuenctid o'r fath yn y dref.
"Dwi’n meddwl be’ ma’ Kian yn trio sefydlu ydi clwb ieuenctid ond rwla lle ma’r plant ma’n cael point of view pobl sydd ‘di bod yn yr un sgidia â nhw ond sydd wedi gwneud petha gwahanol i’r confensiynol ‘lly," meddai.
"Ag y fwya o leisia fedrith o gasglu i ddangos hynna, dwi’n meddwl y gora ydi o i’r dyfodol wedyn.
"Rhaid fi ddeud bo' fi yn prowd iawn o alw'r lle ma yn home town. Er bo' fi jyst lawr y lôn yn Talwrn, dwi yn cysidro fa'ma fa'tha home town i fi, de."
Yn yr wythnosau diwethaf, mae Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi cwrdd â Kian i drafod y syniad, ac yn gefnogol ohono.
"Mae o’n un o’r petha dwi’n ei glywed gan bobl ifanc a weithia pobl hŷn, ‘Does ’na ddim byd yma ar gyfer pobl ifanc," meddai Rhun ap Iorwerth.
"Ma’ ‘na wrth gwrs, ma’ ‘na adnoddau hamdden ar gael o fewn ein cymunedau ni ond yn aml iawn, mae ‘na ‘ar goll’, ryw fath o ganolfan lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw’n gallu dod at ei gilydd a bod yn nhw eu hunain, a bod yn ddiogel.
"Dwi wrth fy modd fod y syniad ‘ma wedi dod o’r gymuned drwy Kian a criw o’i ffrindia fo a bod nhw rwan yn benderfynol o ddelifro hyn ar gyfer ardal Llangefni."
'Pobl prowd'
Mae Kian wedi sefydlu deiseb i geisio codi ymwybyddiaeth o'i fwriad i sefydlu hwb ieuenctid yn Llangefni, ac mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae Kian hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO).
"Nes i ddechra ar Facebook gan ddeud bod y plant 'ma angen rwbath, ac maen nhw angen fo rwan," meddai.
"Nes i ddod â fo at y community, nes i ddechra efo petitions ac honestly, nes i weld efo’r community be mae’n gallu bod. ‘Dan ni’n bobl sy’n prowd, pobl prowd," meddai.
"Pan dan ni’n dod together fel community, ti’n gallu gweld be sy’n gallu dod.
"I hogyn 21 oed sy’n dod o Pencraig, Llangefni sydd rili ddim efo’r inclination ever i persiwio hyn, dwi’n meddwl ma’n blessing ag os dwi’n gallu neud o, ma’ rhywun yn gallu neud o."