Teyrnged i ddyn 72 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng beic a char
Mae beiciwr 72 oed a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghaerdydd fis diwethaf wedi marw.
Mae'r heddlu bellach wedi cyhoeddi mai Brad Craven oedd enw'r dyn fu farw.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd Brad Craven o ardal Y Rhath a bu farw ar 20 Mehefin, bum wythnos ar ôl y gwrthdrawiad ffordd difrifol.
"Roedd yn feiciwr hyderus a phrofiadol a gyda'i frawd ar eu taith seiclo foreol pan gafodd anafiadau difrifol, gan barhau yn anymwybodol ar ôl y gwrthdrawiad.
"Bydd Brad, a oedd yn gyn-weithiwr cymdeithasol yn Ysbyty Llandochau, yn cael ei gofio gan bawb fel dyn meddylgar a gofalgar iawn a oedd bob amser yn rhoi lles eraill o flaen ei hun."
Cafodd dyn 19 oed ei arestio wedi'r gwrthdrawiad, ac mae ar hyn o bryd wedi'i ryddhau o dan ymchwiliad.
Mae'r ymchwiliad bellach yn cael ei drin fel gwrthdrawiad ffordd angheuol.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng beic Mr Craven a cherbyd Fiat 5000glas , tua 08:40 ar ddydd Sadwrn, 17 Mai.
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500155483.