
Rhagor o alwadau am ymchwiliad wrth i’r Eglwys yng Nghymru gwrdd i drafod Eglwys Gadeiriol Bangor
Rhagor o alwadau am ymchwiliad wrth i’r Eglwys yng Nghymru gwrdd i drafod Eglwys Gadeiriol Bangor
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau bod Corff y Cynrychiolwyr wedi cyfarfod ddydd Mawrth i drafod materion yn ymwneud ag esgobaeth ac Eglwys Gadeiriol Bangor.
Fis diwethaf, fe gyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru grynodeb o ddau adroddiad yn amlinellu “diwylliant lle roedd ffiniau rhywiol wedi cymylu”, defnydd gormodol o alcohol a gwendidau diogelu.
Fe alwodd rhai o fewn i’r Eglwys am ymddiswyddiad Archesgob Cymru Andy John, sydd hefyd yn Esgob Bangor.
Wedi hynny, fe gynigodd y Parchedicaf Andy John ei “ymddiheuriad mwyaf diffuant i unrhyw aelodau o gymuned yr Eglwys Gadeiriol sydd wedi cael eu brifo neu’n teimlo fy mod i wedi eu gadael nhw lawr.”
Fe ddywedodd yr Eglwys yng Nghymru ei bod wedi creu grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r materion.
Ond mae dau offeiriaid o fewn Eglwys Gadeiriol Bangor wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r hyn ddigwyddodd yn yr Eglwys Gadeiriol a’r esgobaeth.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, mae Aelod Senedd Plaid Cymru, Sian Gwenllian, wedi cadarnhau ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau’r Eglwys yn galw am ymchwiliad annibynnol:
'Tryloywder'
“Dw i yn poeni am y sefyllfa ac mae nifer o etholwyr wedi dod ataf i yn bryderus am adroddiadau yn y wasg, honiadau, ac adroddiadau mewnol sydd hefyd wedi cyrraedd y wasg.”

“Felly 'dw i wedi ysgrifennu at Archesgob Cymru ac at gynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn holi nhw beth yw’r sefyllfa ac yn gofyn iddyn nhw wneud adolygiad annibynnol i'r sefyllfa.”
“Dw'i ddim ar hyn o bryd yn hyderus y bydd adolygiad sy’n gwbl annibynnol o’r Eglwys. Hynny sydd yn fy mhoeni i. Dwi''n credu, er lles yr Eglwys, mae angen tryloywder llwyr, fel bod pobl yn teimlo bod pethau’n mynd i newid, bod argymhellion yn cael eu gweithredu a bod modd adfer ffydd y cyhoedd yn enw da‘r Gadeirlan unwaith eto.”
Mae’r Eglwys wedi gwrthod sawl cynnig am gyfweliad gydag Archesgob Cymru i drafod y sefyllfa y tu mewn i Esgobaeth Bangor a’r Eglwys Gadeiriol.
Fore Mawrth, fe geisiodd Newyddion S4C fynnu atebion ganddo wrth iddo gyrraedd cyfarfod yng Nghaerdydd. Ond doedd dim ateb gan yr Archesgob i'r cwestiynau a gafodd eu holi.
Mewn datganiad byr, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Cyfarfu Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru heddiw i ystyried materion yn ymwneud ag Eglwys Gadeiriol Bangor."
"Ar ôl trafodaethau helaeth a manwl, mae'r cyfarfod wedi gohirio, a bydd datganiad yn cael ei gyhoeddi maes o law."