Newyddion S4C

Donald Trump yn cyrraedd Amsterdam ar gyfer Uwch-gynhadledd Nato

Donald Trump yn cyrraedd Amsterdam ar gyfer Uwch-gynhadledd Nato

Mae'r Arlywydd Trump wedi cyrraedd Amsterdam ar gyfer Uwch-gynhadledd Nato, lle mae disgwyl iddo gyfarfod â 32 o arweinwyr gwledydd y gynghrair, a chael cinio yng nghwmni Brenin yr Iseldiroedd. 

Glaniodd ym maes awyr Schipol yn Amsterdam tua 18:30.

Ar fwrdd ei awyren Air Force One, siaradodd Donald Trump â newyddiadurwyr sy'n teithio gydag e, ac mae e wedi canmol Israel am ddal yn ôl, a pheidio ymosod ar Iran yn yr oriau diwethaf. 

Cyhoeddodd yr Arlywydd fore Mawrth bod cadoediad yn ei le rhwng Israel ac Iran. 

Ond ymatebodd Donald Trump yn ffyrnig rai oriau yn ddiweddarach, gan regi tra'n cael ei holi gan newyddiadurwyr, wedi adroddiadau fod y ddwy wlad wedi torri amodau'r cadoediad.  

Wrth lanio yn Amsterdam nos Fawrth, dywedodd wrth newyddiadurwyr ei fod yn disgwyl siarad ag Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelenksy "ar gyrion" yr Uwch-gynhadledd. 

Hon yw Uwch-gynhadledd gyntaf Donald Trump ers 2019.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.