Neuadd JMJ: Prifysgol Bangor ddim yn bwrw ymlaen â chynlluniau dadleuol
Ni fydd Prifysgol Bangor yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau fyddai'n caniatáu myfyrwyr di-Gymraeg i fyw yn neuadd breswyl Gymraeg y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones, neu JMJ.
Roedd cynlluniau i agor rhannau o’r adeilad i fyfyrwyr di-Gymraeg ym mis Medi wedi hollti barn ond bellach, mae'r brifysgol wedi cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau o’r fath.
Dywedodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor fod y brifysgol yn ystyried agor dau lawr isaf yr adeilad i fyfyrwyr nad oedd yn siarad Cymraeg.
Ond yn dilyn cyfarfod rhwng Llywydd UMCB, Adran Neuaddau'r Brifysgol a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor nos Lun, fe gyhoeddodd UMCB na fyddai’r cynlluniau bellach yn mynd yn eu blaen.
Dywedodd y brifysgol eu bod wedi cytuno i beidio ag agor y lloriau i fyfyrwyr di-Gymraeg “er bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n dewis neuadd JMJ.”
Maen nhw’n dweud eu bod am “ddefnyddio’r cyfle” i “fyfyrio ar y dyfodol ac archwilio'r ffordd orau o sicrhau cyfraniad parhaus y neuadd".
'Cydweithio'
Mewn datganiad nos Lun, dywedodd UMCB eu bod yn "falch” fod y brifysgol "wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen gyda'r cynigion".
Dywedodd hefyd y byddai’n “cydweithio er mwyn gwneud ymdrech sylweddol” gyda’r nod o gynyddu niferoedd y myfyrwyr Cymraeg sy'n dewis Neuadd JMJ ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27.
"Mae Neuadd John Morris-Jones yn ganolfan i fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor, nid yn unig fel llety, ond fel cymuned ddiwylliannol a chymdeithasol.
"Mae'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr fyw, astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gryfhau hunaniaeth ddwyieithog y brifysgol.”
Ychwanegodd Prifysgol Bangor eu bod "yn parhau i fod yn ymrwymedig i ethos JMJ, a oedd yn hanner cant oed y llynedd, carreg filltir sy'n adlewyrchu rôl a hirhoedledd y neuadd wrth gefnogi myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg".
"Rydym yn ymfalchïo yn y dreftadaeth hon ac yn y nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd sydd yn ein cymuned, ac rydym yn awyddus i sicrhau y gallant brofi bywyd prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, a chefnogi hynny.
"Ni fydd y brifysgol yn mynd ymlaen gyda'r cynlluniau i agor allan 'stafelloedd ar gyfer myfyrwyr di-Gymraeg ym mis Medi.
"Ar yr un pryd, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i lety i bob myfyriwr ac mae'n gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i daro'r cydbwysedd cywir wrth symud ymlaen."