Newyddion S4C

Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar swyddog carchar gan lofrudd plant Southport

Axel Rudakubana

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar swyddog carchar yn HMP Belmarsh gan lofrudd plant Southport, Axel Rudakubana.

Maen nhw’n ymchwilio i honiadau bod y dyn 18 oed wedi defnyddio tegell yn ei gell i gynhesu ac yna tywallt dŵr berwedig dros swyddog ddydd Iau.

Fe gafodd y swyddog ei gludo o’r carchar i'r ysbyty ond nid oedd angen triniaeth ac fe gafodd ei ryddhau yn ddiweddarach y noson honno, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i’r swyddog ddychwelyd i'r gwaith yr wythnos nesaf.

Carcharwyd Rudakubana am o leiaf 52 mlynedd ym mis Ionawr am lofruddiaethau tair merch a cheisio llofruddio wyth o blant eraill a dau oedolyn.

Llofruddiodd y ferch naw oed Alice da Silva Aguiar, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, yn yr ymosodiad mewn gweithdy ar thema Taylor Swift ar Orffennaf 29 y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad ar swyddog carchar yng Ngharchar Belmarsh ddoe.

“Ni fydd trais yn y carchar yn cael ei oddef a byddwn bob amser yn pwyso am y gosb fwyaf llym posibl am ymosodiadau ar ein staff gweithgar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.