Newyddion S4C

Gobeithio cadw Gŵyl Fwyd Caernarfon 'am ddim' wrth i ddegau o filoedd heidio yno eto eleni

Gwyl Fwyd Caernarfon

Mae posibilrwydd y bydd yn rhaid i Ŵyl Fwyd Caernarfon “addasu” yn y dyfodol os nad yw'n gallu cwrdd â'r costau cynyddol i'w rhedeg.

Mae trefnwyr yn amcangyfrif fod hyd at 40,000 o bobl wedi ymweld â’r ŵyl y llynedd a mae disgwyl degau o filoedd yno eto ddydd Sadwrn.

Ers i’r ŵyl ddechrau ym mis Mai 2016, mae wedi bod y rhad ac am ddim i bawb fynychu.

Ond wrth i’w boblogrwydd dyfu, mae'r costau hefyd wedi tyfu i dros £72,000 erbyn hyn.

“Mae gan bob gŵyl mor boblogaidd ei bris,” meddai Nici Beech, Cadeirydd Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon.

“Os mae yna 40,000 o bobl, mae hynny’n golygu hyn a hyn o ambiwlansys 'da ni angen llogi, hyn a hyn o ddiogelwch, ac yswiriant uwch.

“Mae’n ŵyl am ddim a da ni isho cadw hi fel ‘na. 

“Ond fydd rhaid addasu ella os da ni ddim yn gallu cyfro’r costau i gyd – ond mae’n edrych yn ok. 

“Da ni’n addasu bob blwyddyn i be bynnag sydd o’n blaena’ ni.

“Da ni yn cael cyfraniadau gan bobl, da ni efo arian wrth gefn ond os nad oes yna arian wrth gefn, dydi o ddim yn gynaladwy. Felly da ni methu gwario’r arian wrth gefn i gyd.”

Mae’r grŵp trefnu yn annog ymwelwyr i roi £2 yr un at yr ŵyl, gan obeithio y byddai hynny’n codi digon o arian i dalu amdani.

Ychwanegodd Ms Beech: “Ma gennym ni fwcedi allan trwy’r dydd efo’r gwirfoddolwyr sydd yn rhoi gwybodaeth i bobol.

“Fe allai pobol rhoi arian yn rheini neu maen nhw’n gallu gwneud hefo cerdyn, neu Paypal, neu QR Code, felly mae sawl ffordd.”

Elfennau newydd

Eleni, bydd elfennau newydd yn cael eu cyflwyno i’r ŵyl gan gynnwys mwy o bwyntiau dŵr, pebyll gwybodaeth a gofod tawel.

Gyda’r rhagolygon tywydd yn ffafriol unwaith eto, mae’r tîm o wirfoddolwyr wedi ychwanegu pwyntiau dŵr ar draws y dref er mwyn i bobl allu ail-lenwi eu poteli.

“Rydym wedi ceisio ei gwneud hi’n haws i bobl gael digon o ddŵr i’w yfed gydol y dydd wrth osod pwyntiau dŵr ar y Maes, yn Cei Llechi, Prom 2 ac yn yr ardal deuluol yn Parc Coed Helen.”

Un fydd yn darparu diodydd oer i’r dorf ar y maes fydd Tom Owen, perchennog cwmni Swig.

“Fel cwmni o Gaernarfon, ’da ni wastad yn edrych ymlaen at Gŵyl Fwyd Caernarfon,” meddai Tom.

“Mae’r ŵyl wedi tyfu i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf yng Nghymru a ’da ni, yn Swig, yn hynod ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith calad i wneud hyn yn bosib.”

Yn ôl Tom, mae’r ŵyl yn gyfle i hybu ymwybyddiaeth o’r dref yn yr hir dymor, yn ogystal â’r cwmnïau gwerthu bwyd a diod yng Nghymru.

“Mae’n helpu codi ymwybyddiaeth brand ni, fel masnachwyr yr ŵyl, ar gyfer digwyddiadau eraill gweddill yr haf,” meddai.

“Â hi’n addo tywydd braf unwaith eto blwyddyn yma, byddwn ni lawr wrth y Cei gyda smwddis oer i gadw chi fynd drwy’r dydd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.