Newyddion S4C

Pob cyngor ond un wedi cefnogi datganoli Ystad y Goron wrth i Sir Benfro bleidleisio o blaid

Egni gwynt

Mae pob cyngor ond un yng Nghymru bellach wedi pleidleisio i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru, ar ôl i Sir Benfro wneud hynny ddydd Gwener.

Mae’r bleidlais yn golygu mai Torfaen yw’r unig gyngor o’r 22 yng Nghymru sydd heb gynnal pleidlais ar y pwnc.

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o draethau ac afonydd Cymru, yn ogystal a dros 50,000 acr o dir.

Mae’r arian yn mynd i’r Trysorlys ond mae canran sy’n cael ei benderfynu gan Lywodraeth y DU yn cael ei dalu yn ôl i’r Teulu Brenhinol. 

Mae cyfrifoldeb am Ystâd y Goron eisoes wedi'i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban, a adroddwyd yn flaenorol ei bod wedi cynhyrchu £103.6 miliwn i goffrau cyhoeddus yr Alban yn 2023.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru o blaid y newid ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthwynebu.

Mewn cyfarfod ddydd Iau gofynnodd y Cynghorydd Michael Williams i Gyngor Sir Benfro gefnogi datganoli Ystâd y Goron gan ddweud y gallai'r “elw gael ei fuddsoddi yn economi a chymunedau Cymru”.

“Mae awdurdodau lleol dan bwysau ariannol enfawr a byddai rhoi Ystâd y Goron yn nwylo Cymru yn gam sylweddol i fynd i’r afael â’r diffyg buddsoddiad yn ein llywodraeth leol,” meddai.

Mae gwrthwynebwyr datganoli Ystâd y Goron wedi dweud bod unrhyw gynnydd mewn elw yn yr Alban wedi ei dynnu allan o’r grant y maen nhw’n ei dderbyn gan San Steffan.

Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol Aled Thomas wrth y cyfarfod o gyngor Sir Benfro bod hynny yn golygu bod y bleidlais “braidd yn ddibwrpas”.

Wrth gloi y ddadl dywedodd y Cynghorydd Mike Williams bod manteision economaidd posibl o brosiectau ynni gwyrdd yn y Môr Celtaidd.

“Dyw hi ond yn deg os oes unrhyw arian yn dod i mewn bod gennym ni’r arian hwnnw,” meddai.

“Mae angen ail-edrych ar rhywbeth sydd wedi bod ar waith ers 300 mlynedd o bryd i’w gilydd.”

Cefnogwyd cynnig y Cynghorydd Williams o 34 pleidlais i 11.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.