
'Hollbwysig' bod iaith arwyddo yn amlwg mewn digwyddiadau pêl-droed
“I weld BSL ar draws y byd pêl-droed, byddai hynny’n freuddwyd."
Ar Wythnos Ymwybyddiaeth y Byddar mae Talina Jones, dehonglydd Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL) Clwb Pêl-droed Abertawe yn dweud ei fod yn "hollbwysig" bod BSL yn amlwg yn nigwyddiadau'r gamp ledled y wlad.
Yr Elyrch yw'r unig glwb o'r 72 yn y Bencampwriaeth, Adran Un ac Adran Dau sydd yn cynnig darpariaeth BSL lawn yn gyson ar ddiwrnodau gemau.
Yn rhan o'i gwaith gyda'r clwb mae Talina yn arwyddo BSL yn ystod gemau ac yn arwain teithiau o'r stadiwm yn iaith BSL.
BSL yw ei hiaith gyntaf - roedd ei rhieni, brawd hŷn, mam-gu a thad-cu yn fyddar.
"Dwi'n dod o deulu byddar, felly mae fy rhieni, brawd hynaf a mam-gu a thad-cu yn fyddar," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roeddwn i'n ddehonglydd BSL answyddogol fy holl fywyd - felly roedd i wedi disgyn mewn i swydd yn ymwneud â BSL a dwi'n ei garu."

Bellach mae Talina yn gweithio fel tiwtor BSL ac wedi gweithio yn y sector addysg yn rhoi cyfle i blant mynychu ysgolion clyw.
Mae adroddiad gan Brifysgol Abertawe o ddefnyddwyr BSL wedi canfod nad yw'r iaith cael ei defnyddio'n helaeth gan gwmnïau, timau chwaraeon nac mewn adloniant.
Mae Talina'n dweud ei bod yn bwysig bod gan bobl fyddar mynediad at BSL mewn pob agwedd o fywyd.
“Mae e fel gofyn ‘faint o bwysig ydy e i gael rhywbeth yn Gymraeg?’ os mai dyna yw eich iaith gyntaf, a dylai hynny fod yn rhywbeth sydd ar gael i bawb.
“Mae’r iaith wedi ei chydnabod gan Lywodraeth y DU, felly mae’n hollbwysig bod gan bobl y dewis yna i gael mynediad at rywbeth yn eu hiaith nhw.
“Hefyd dydych chi ddim yn gallu cymryd yn ganiataol bod pobl fyddar yn gallu darllen ac ysgrifennu, nid dyna’r achos pob tro."
'Yn eich wyneb'
Dechreuodd Talina Jones gweithio gyda'r Elyrch yn 2020 tra oedd hi'n roedd hi'n Ymddiriedolwr yng Nghanolfan y Byddar Abertawe yn ardal Hafod y ddinas.
Ers hynny mae hi wedi gwneud mwy a mwy o waith gyda'r clwb, a'r tymor hwn fe wnaeth hi gychwyn ar arwyddo BSL ar ddiwrnodau gemau.
Pan fydd cyhoeddiadau a gwybodaeth cyn gemau, fydd hi ar bwys y cyflwynydd Kev Johns yn arwyddo'r hyn mae'n ddweud - a'r cyfan ar y sgrin fawr i'r holl gefnogwyr ei weld.
"Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad i wneud GIFs gyda’r chwaraewyr yn iaith BSL ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol," meddai.
"Roedd yr adborth roeddwn ni wedi derbyn o hynny yn bositif iawn - nid yn unig gan y gymuned fyddar ond gan bawb.

“Mae’n hollol, hollol bwysig bod y clwb yn defnyddio BSL, a doedd hynny ddim yn rhywbeth ar waelod y rhestr, roedd yn un o'r blaenoriaethau.
“Mae e yna, yn eich wyneb fel y dylai fod. Mae pobl wedi dweud, nid pobl fyddar yn unig ond y cefnogwyr eraill yn dweud bod eu profiad nhw ar ddiwrnod gemau wedi gwella hefyd.
Ychwanegodd: “Roedd y gêm gyntaf ym mis Awst ac es i i’r archfarchnad ar ôl y gêm ac fe ddaeth rhywun lan i mi a dweud ‘chi yw’r person sydd yn gwneud BSL yn gemau’r Elyrch’ a gofyn yn lle maen nhw’n gallu dysgu BSL.
“Mae’n codi’r proffil, ac mae pobl yn dangos diddordeb yn BSL.
“Hyd yn oed cefnogwyr oddi cartref, maen nhw'n dod gyda’u plant byddar achos maen nhw’n gwybod bod BSL ar y sgrin fawr."
'Breuddwyd'
Er mai Abertawe yw'r unig glwb yn yr EFL i gynnig darpariaeth lawn BSL yn gyson ar ddiwrnodau gemau, mae rhai clybiau yn yr Uwch Gynghrair yn gwneud hefyd.
Hoffai Talina weld clybiau ar draws y byd yn defnyddio BSL ar ddiwrnodau gemau, fel bod proffil yr iaith yn codi.
“I weld BSL ar draws y byd pêl-droed, byddai hynny’n freuddwyd," meddai.
“Bod unrhyw berson byddar yn gallu mynd i gêm pêl-droed, mae pêl-droed yn iaith ei hun, ond mae hefyd am adeiladu tuag at y gêm, y cyffro, y wybodaeth cyn y gic gyntaf, dyw pobl fyddar ddim yn cael hynny.
“Os allai BSL bod yn eich wyneb ar draws y byd, yng Nghynghrair y Pencampwyr, Cwpan y Byd, hwnna yw’r freuddwyd fwyaf.
"Peidiwch fod ofn gofyn cwestiynau chwaith, plîs gofynnwch i bobl fel fi neu unrhyw ddehonglydd BSL arall - rydym ni eisiau gweld BSL ar draws y byd."