Arweinwyr gwledydd Ewrop yn cyfarfod yn Wcráin am y tro cyntaf
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi teithio i Wcráin ar gyfer uwchgynhadledd gydag gwledydd eraill yn Ewrop am drafodaethau yn Kyiv ar "glymblaid y parod".
Mae'r prif weinidog yn mynychu'r uwchgynhadledd gydag Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron, Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz, a Phrif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk.
Dyma’r tro cyntaf i arweinwyr y pedair gwlad deithio i Wcráin ar yr un pryd am gyfarfod sy’n cael ei gynnal gan yr Arlywydd Volodymyr Zelensky.
Mae swyddogion milwrol o tua 30 o wledydd wedi bod yn llunio cynlluniau ar gyfer y glymblaid, a fyddai’n darparu tasglu heddwch pe bai cadoediad yn cael ei gytuno rhwng Rwsia a Wcráin.
Cyn y cyfarfod ddydd Sadwrn, rhyddhaodd Syr Keir, Mr Macron, Mr Tusk a Mr Merz ddatganiad ar y cyd yn lleisio cefnogaeth i Wcráin ac yn galw ar Rwsia i gytuno i gadoediad 30 diwrnod.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd ddiweddaru arweinwyr eraill yn y "glymblaid o'r parod" am y cynnydd yn y cynlluniau ar gyfer tasglu heddwch.
Dywedodd Rhif 10 y byddai’r tasglu “yn helpu i adfywio lluoedd arfog Wcráin ar ôl unrhyw gytundeb heddwch ac yn cryfhau hyder mewn unrhyw heddwch yn y dyfodol”.
Llun: X/ZelenskyyUa