Dirwyo dyn o Brydain am achosi marwolaeth ei fab mewn gwesty ar ynys Cyprus
Mae dyn o Brydain wedi cael dirwy o 3,000 ewro (£2,500) ar ôl i’w fab ddwy oed syrthio bron i 40 troedfedd i’w farwolaeth o ffenest ar bedwerydd llawr gwesty ar ynys Cyprus.
Clywodd y llys yn gynharach fod Joshua Foster yn credu bod y ffenestr ar gau pan roddodd y bachgen ar y sil i ddangos golygfa o barc dŵr iddo, cyn iddo “golli gafael” arno.
Fe wnaeth Foster, sydd yn 37 oed, ymddangos yn Llys Rhanbarthol Paphos ddydd Gwener i gael ei ddedfrydu, ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy weithred fyrbwyll, ddiofal neu beryglus.
Roedd Mr Foster, a oedd yn gweithio fel archwilydd, bron yn ei ddagrau wrth i’r Barnwr Froso Christodoulidou ddarllen y ddedfryd.
Ar ôl y gwrandawiad, a barodd 25 munud, cofleidiodd Foster ei gyfreithiwr cyn cofleidio ei rieni.
Syrthiodd y bachgen o bedwerydd llawr y King Evelthon Beach Hotel and Resort - gwesty pum seren yn Chlorakas - ar 12 Gorffennaf, sef diwrnod cyntaf gwyliau’r teulu.
Gwyliau teuluol
Clywodd y llys yn gynharach fod Foster, ei wraig, ei ddau blentyn a’i deulu agos wedi cyrraedd Cyprus yn oriau mân y bore ar ddiwrnod y digwyddiad.
Ar ôl cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, gan gynnwys ymweld â’r pwll nofio, dychwelodd y teulu i’w hystafelloedd i baratoi i fynd allan i fwyta.
Am tua 18:00, cerddodd Foster, ei dad-yng-nghyfraith a’i fab tuag at y lifft.
Dywedodd ei gyfreithiwr, Alexandros Alexandrou, wrth y llys fod y diffynnydd mewn “hwyliau da” ac yn chwarae gyda’i fab.
Wrth iddynt agosáu at y lifft, roedd y bachgen wedi sylwi ar barc dŵr y tu allan.
Pwysodd Foster fotwm y lifft a gosod y plentyn ar sil y ffenestr. Edrychodd y bachgen allan, ac yna digwyddodd y peth “annirnadwy” cyn i Foster gael cyfle i ymateb.
Mewn datganiad gwirfoddol i’r heddlu, dywedodd Foster fod ei fab “wedi syrthio cyn iddo gael cyfle i’w ddal”.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd Foster ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Paphos, ac fe gymerwyd sampl o’i waed i ganfod unrhyw gyffuriau ac alcohol.
Nid oedd y ffaith iddo yfed alcohol yn rhan sylweddol o’r achos yn erbyn y diffynnydd, a dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd tystiolaeth ei fod wedi meddwi.
Dywedodd y cyfreithiwr wrth y llys nad oes gan Foster unrhyw euogfarnau blaenorol, a bod ei edifeirwch “yn amlwg”.