
'Adeiladu cysylltiadau': Telynor arbrofol o Gymru yn mynd ar daith i Japan
'Adeiladu cysylltiadau': Telynor arbrofol o Gymru yn mynd ar daith i Japan
Mae Rhodri Davies, sy’n delynor arbrofol o Abertawe, yn mynd ar daith i Japan er mwyn cynnal cyngherddau fel rhan o raglen gyfnewid ddiwylliannol.
Eleni, mae’n Flwyddyn Cymru Japan. Bwriad yr ymgyrch yw ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Ionawr eleni gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, a Llysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig, Hiroshi Suzuki.
Nid dyma fydd taith gyntaf Rhodri Davies i Japan.
“Am dua 20 mlynedd, fi ‘di bod yn mynd i Japan,” meddai.
“Fi ‘di adeiladu cysylltiad eithaf cryf gyda cherddorion mas ‘na, ‘neud ffrindiau, a chydweithio gyda lot o bobl eithaf enwog.
"Mae mynd i fod yn ffantastig mynd mas 'na a chwarae gyda cerddorion fi wedi chwarae gyda o'r blaen, ond hefyd cerddorion newydd."

Mae telynor arbrofol derm am un sy'n archwilio dulliau anghonfensiynol o ran sain, techneg neu adeiladwaith, gan wthio ffiniau perfformiad a chyfansoddi telyn draddodiadol.
"Mae lot o bobl ddim yn meddwl bod e'n cerddoriaeth gan fod e mor aflafar," meddai Rhodri, sydd yn byw yn Sgeti, Abertawe.
"Mae e i unrhyw un sydd yn trial cwestiynu cerddoriaeth trwy eu cerddoriaeth nhw eu hunain."
'Ffynnu'
Mae Cronfa Diwylliant Japan Cymru, syddd werth £150,000, yn cael ei rheoli gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru ar gyfer gweithgareddau sy’n cysylltu’r ddwy wlad.
Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Bwriad y gronfa yw datblygu partneriaeth artistig newydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â chryfhau partneriaethau sy’n bodoli yn barod.”
Daw Blwyddyn Cymru a Japan 2025 ar ôl Cymru yn India 2024. Mae’r blynyddoedd blaenorol wedi canolbwyntio ar Ffrainc, Canada, a’r Almaen.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, “Mae cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a Japan sy'n ymestyn yn ôl i'r 19eg ganrif, pan chwaraeodd arloesedd Cymru ran bwysig yn y broses o lunio rhwydwaith trafnidiaeth Japan.
“Heddiw, mae'r bartneriaeth honno'n ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon.”