Newyddion S4C

£25m i lenwi 30,000 o dyllau yn ffyrdd Cymru

Twll yn y ffordd

Bydd gwaith gwerth £25m i lenwi 30,000 o dyllau yn ffyrdd Cymru yn dechrau ddydd Gwener meddai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y llywodraeth mai'r nod yw y bydd y gwaith yn gwella dros 100km o’r ffyrdd.

Mae cwmni trwsio ceir ar ochr y ffordd yr RAC wedi dweud bod gyrwyr yng Nghymru a Lloegr yn dod ar draws chwech twll yn y ffordd bob milltir ar gyfartaledd.

Roedd trwsio difrod i geir sydd wedi ei achosi gan dyllau yn y ffordd yn costio £460 ar gyfartaledd i bob perchennog car, medden nhw. 

Ddechrau eleni fe wnaeth trigolion yn Wrecsam droi un ffordd yn ‘Pothole Land’ er mwyn tynnu sylw'r cyngor at y broblem. Fe gafodd y ffordd ei hadfer yn fuan wedyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates bod “trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth bwysig i ni”.

"Bydd y rhaglen gynhwysfawr o waith sy'n cael ei gyflawni fel rhan o'n buddsoddiad o £25m yn helpu i wella gwydnwch ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn y dyfodol ac yn atal tyllau," meddai.

"Rwy'n falch o glywed bod rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau gyda mwy i ddilyn yn y misoedd nesaf. Edrychaf ymlaen i weld canlyniadau’r gwaith.”

Bydd y gwaith yn cynnwys dau gynllun pontydd i atgyweirio saith pont, a 18 o brosiectau gosod wyneb newydd, gan gynnwys:

·             Adnewyddu dec Pont yr M4, ac atgyweirio pum pont rhwng Cyffyrdd 37 a 38 

·             Rhoi wyneb newydd i'r A470 yng Nghaersws, trwsio, ac atal dros 1000 o dyllau dros 3.4 km. 

·             Gosod wyneb newydd ar Ffordd Osgoi'r Wyddgrug yr A494, trwsio, ac atal dros 1400 o dyllau dros 4.9km 

Bydd hyn yn golygu y bydd £118m wedi'i wario erbyn diwedd tymor y Senedd hon i drwsio dros 500km o ffyrdd Cymru, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.