Achos plismon Porthmadog: Barnwr yn caniatáu i'r rheithgor ddod i benderfyniad mwyafrif
Mae'r barnwr yn achos plismon sydd wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol a thagu dyn mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023 wedi caniatáu i'r rheithgor ddod i benderfyniad mwyafrif - sef 10-2 neu 11-1.
Mae PC Richard Williams, 43 oed, yn wynebu un cyhuddiad o dagu bwriadol ac un cyhuddiad o achosi niwed corfforol i Steven Clark mewn digwyddiad ar ystâd Pensyflog yn y dref ar 10 Mai 2023.
Fe ddechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Caernarfon brynhawn dydd Mercher.
Wrth grynhoi’r achos ddydd Mercher, dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth y rheithgor: “Mae’r erlyniad yn dweud bod PC Richard Williams wedi defnyddio grym anghyfreithlon yn erbyn Mr (Steven) Clark.
“Mae Mr Williams yn dweud bod Mr Clark wedi ymosod ar PC Einir Williams a pharhau i wrthsefyll yr arést. Roedd Mr Williams yn credu bod Steven Clark yn peri perygl iddo ef a’i gyd-weithiwr.
“Fe wnaeth Richard Williams gyfaddef iddo daro Mr Clark a’i ddal wrth ei wddf. Mae’n honni ei fod yn gweithredu mewn modd cyfreithlon, wrth geisio amddiffyn ei hun a PC Einir Williams.
“Os ydych chi yn sicr ei fod yn defnyddio grym oedd yn fwy na rhesymol, felly nid oedd yn gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun, ac fe fydd yn rhaid ei ddyfarnu yn euog.”