Newyddion S4C

Her nofio cyn-filwr dall o Gymru i gofio diwedd yr Ail Ryfel Byd

Lance Williams a Sheila Botley

Mae cyn-filwr dall a'i ffrind yn nofio 80 hyd (length) yr wythnos mewn pwll nofio i gofio 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Ers mis Chwefror mae Sheila Botley, 50 oed sydd yn gyn-sarsiant y Corfflu Logisteg Frenhinol a'i ffrind gorau Lance Williams, oedd yn gweithio i'r Awyrlu Brenhinol, wedi bod yn nofio 80 hyd ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn Abertawe.

Mae'r ddau wedi wynebu heriau gydag anableddau a chlefydau iechyd er mwyn cwblhau'r her i nodi diwrnod VE.

Penderfynodd y ddau godi arian i ganolfan i gynfilwyr yn Abertawe, sydd yn cefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Dywedodd Ms Botley o Aberafan ei bod yn teimlo fel "pelen ping pong" pan ddechreuodd yr her o nofio o un ochr y pwll i'r llall.

"Roeddwn i angen cymorth i fynd mewn ac allan o'r pwll," meddai.

"Ond unwaith roeddwn i yn y pwll, mi oeddwn i fel pelen ping pong yn bownsio oddi ar y rhaffau.

"Roedd yn fraint i allu gwneud hwn gydag un o fy ffrindiau gorau, ochr yn ochr trwy gydol yr her."

Image
Sheila Botley gyda Prif Weithredwr Swansea Veterans Hub Wayne Jenkins (canol) a Lance Williams
Sheila Botley gyda Prif Weithredwr Swansea Veterans Hub Wayne Jenkins (canol) a Lance Williams

Fe ddaeth Sheila a Lance, sydd o Abertawe, yn ffrindiau ar ôl cwrdd yn y Swansea Veterans Hub, ac nid oedd y ddau wedi hyfforddi ar gyfer yr her fawreddog.

Bu rhaid iddyn nhw gerdded y pellter nad oeddynt yn gallu nofio ar rai adegau, meddai Ms Botley.

"Roedd y boen yn ofnadwy, ond roeddem wedi dal ati a pharhau."

Ychwanegodd Mr Williams bod yr hiwmor rhwng y ddau o gymorth wrth gynnal yr her.

"Mae Sheila yn gwmni gwych, mae ganddi hiwmor da iawn, tebyg iawn i fy hiwmor i ac roeddem wedi chwerthin trwy'r poen," meddai.

"Sai'n gallu meddwl am ffrind gwell i wneud yr her yma gyda fi.

"Mae Sheila yn dweud nid oes ots beth yw eich anabledd, rydych chi dal gyda'r gallu i wneud pethau, ond eich bod chi'n dysgu i'w gwneud mewn ffordd wahanol.

"Mae'r ffaith bod hi'n ddall, mae'n wallgof bod hi wedi gwneud hwn i gyd."

'Codi ysbryd'

Wedi i gyfnodau Sheila a Lance yn y lluoedd arfog dod i ben, roedd y ddau wedi chwilio am gymorth trwy'r Swansea Veterans Hub.

Mae'r man cyfarfod yn cynnig cefnogaeth gyda thai, swyddi a phethau eraill, oedd o gymorth enfawr iddynt.

"Mae'n fater o fywyd a marwolaeth," meddai Mr Williams.

"Mae adegau lle mae'r hwb wedi gwneud y peth hanfodol o gefnogi rhywun sydd ddim yn iawn mewn am un rheswm neu'r llall, pe bai'n PTSD neu amgylchiadau teuluol."

Ychwanegodd Ms Botley bod yr hwb yn "agor drysau" a'i fod yn "codi eich ysbryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.