Digwyddiadau ar draws Cymru i nodi 80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben yn Ewrop
Digwyddiadau ar draws Cymru i nodi 80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben yn Ewrop
Fe fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Iau i nodi 80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben yn Ewrop.
Fe fydd gwasanaethau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad gydol y dydd.
Dechreuodd y cofio nos Fercher yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, gyda dros 250 o bobl yno gan gynnwys y Prif Weinidog Eluned Morgan a nifer o gyn-filwyr.
Fore Iau roedd seremonïau codi baneri yn cael eu cynnal mewn nifer o drefi a siroedd yng Nghymru.
Mae disgwyl i faneri gael eu codi ar rai adeiladau cyngor am 09:00 wrth gofio am yr Ail Ryfel Byd.
Am 12:00 bydd dau funud o dawelwch ar draws y DU i gofio am y rhai fu farw yn ystod y rhyfel.
Fe fydd gwasanaeth arbennig yng nghadeirlan Tŷ Ddewi am 18:00.
Wrth iddi nosi bydd dros 1,000 o goelcerthi a goleuadau heddwch yn cael eu tanio a’u goleuo ar draws y DU gan gynnwys yn Aberhonddu, Mynydd Parys a Pharc Ynysangharad ym Mhontypridd.
Fe allwch chi ddod o hyd i restr o bob digwyddiad ar draws Cymru fan hyn.