Rhai rhieni yn 'herio' ymdrechion athrawon i wella ymddygiad disgyblion
Mae rhai rhieni yn “herio” ymdrechion athrawon i wella ymddygiad disgyblion mewn ysgolion, yn ôl arolygwyr addysg Cymru.
Dywedodd Estyn mewn adroddiad newydd sy’n seiliedig ar arolygon o ddisgyblion, staff, a phenaethiaid bod cynnydd cenedlaethol mewn gwaharddiadau ers cyfnod y pandemig.
Mae problemau ymddygiad cyffredin a nodwyd gan ysgolion yn cynnwys tarfu parhaus ar wersi, herio athrawon, a hyd yn oed gwrthdaro corfforol, medden nhw.
Roedd “staff a phenaethiaid yn mynegi pryderon am darfu cynyddol a’r cymorth cyfyngedig sydd ar gael,” medden nhw.
Dywed yr adroddiad bod “diffyg cefnogaeth rhieni yn peri pryder” i staff ysgolion.
“Nododd bron pob ysgol fod graddau o anhawster ymgysylltu ag ychydig o rieni ynghylch materion ymddygiadol,” meddai’r adroddiad.
“Roedd y rhieni hyn yn aml yn herio disgwyliadau’r ysgolion ynghylch ymddygiad ac yn nodi eu bod wedi cael trafferth rheoli ymddygiad eu plant gartref.
“Yn yr arolwg cenedlaethol, yn ôl disgrifiad llawer o staff, roedd ychydig o rieni yn anghefnogol, gan weithiau danseilio staff trwy esgusodi ymddygiad gwael.
“Roedd ychydig iawn o rieni’n dangos ymddygiad ymosodol tuag at arweinwyr a staff pan fynegwyd pryderon wrthynt am ymddygiad eu plentyn.”
‘Anghyson’
Mae’r adroddiad yn galw am “ymgyrch genedlaethol” i hyrwyddo ymddygiad da mewn ysgolion.
Ymysg yr argymhellion mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i “ddatblygu ymgyrch genedlaethol mewn partneriaeth ag ysgolion i hyrwyddo ac esbonio pwysigrwydd ymddygiad da gyda rhieni / gofalwyr a disgyblion”.
Roedd gwaharddiadau tymor penodol, o bum niwrnod neu lai, wedi codi o 12,774 o achosion yn 2018-19 i 22,945 yn 2022-23, meddai’r adroddiad.
Dywedodd Estyn bod dulliau ysgolion sy’n cael anhawster yn rheoli ymddygiad disgyblion yn “anghyson neu nid oes ganddynt bolisïau a phrosesau clir”.
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai ysgolion ddarparu hyfforddiant “rheolaidd a phwrpasol” ar gyfer staff i sicrhau eu bod yn “datblygu dealltwriaeth gadarn o reoli ymddygiad pob un o’r disgyblion yn effeithiol”.
Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar ôl cais gan weinidog y Gymraeg ac Addysg, sef Jeremy Miles ar y pryd, i Estyn ymchwilio i’r pwnc.
'Diogel'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu adroddiad Estyn ac y byddai yn cael ei drafod mewn cynhadledd i drafod ymddygiad disgyblion yn hwyrach yn y mis.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i fynd i'r afael â’r dirywiad o ran ymddygiad mewn ysgolion a cholegau," meddai.
"Mae sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn ein lleoliadau addysgol yn hanfodol.
"Rydym yn croesawu'r adroddiad pwysig hwn gan Estyn sy'n tynnu sylw at y materion y mae ein hysgolion uwchradd yn eu hwynebu a’r camau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â nhw.
"Byddwn yn trafod y pwyntiau hyn ymhellach yn ein huwchgynhadledd ar ymddygiad yn ddiweddarach y mis hwn, lle byddwn hefyd yn ystyried y cyfarfod bwrdd crwn heddiw ar drais a diogelwch mewn ysgolion a cholegau.”