Pwy yw'r Cymry sydd â gobaith o fod yng ngharfan y Llewod?
Ar drothwy cyhoeddiad carfan y Llewod ddydd Iau ychydig iawn o chwaraewyr Cymru fydd yn gobeithio cael eu cynnwys ar gyfer y daith i Awstralia.
Mae'r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn un hynod siomedig ar y cae i'r Cymry, gyda dim un buddugoliaeth mewn 17 o gemau rhyngwladol.
Y llwy bren oedd yr hanes yn y Chwe Gwlad eleni, ond yn y garfan honno roedd rhai chwaraewyr yn serennu, a hynny ychydig fisoedd cyn taith y Llewod i Awstralia.
Cyn i'r garfan cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach dydd Iau, pa chwaraewyr o Gymru sydd â chyfle i sicrhau eu tocyn ar yr awyren?
Jac Morgan
Efallai mai Jac Morgan yw'r dewis amlwg o holl chwaraewyr Cymru ar gyfer y daith i Awstralia fis Mehefin.
Roedd blaenasgellwr y Gweilch ar frig y rhestr taclau yn y Chwe Gwlad eleni, gan gofrestru 78 tacl yn y gystadleuaeth.
Yn 25 oed mae Morgan wedi ennill 24 cap dros Gymru a sgorio 35 o bwyntiau.
Hefyd cafodd ei ddewis i fod yn gyd-gapten gyda Dewi Lake ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.
Mae disgwyl i nifer o chwaraewyr o Loegr ac Iwerddon gan gynnwys Ben Earl, Josh van der Flier a Tom Curry gael eu cynnwys yn yr ôl-reng i'r Llewod.
Gyda'r newyddion bod Caelan Doris wedi ei anafu ac o bosib yn colli'r daith, bydd Jac Morgan yn opsiwn arall yn safle rhif wyth pe bai angen.
Ond pe bai'n cael ei gynnwys bydd Morgan yn chwarae yn safle blaenasgellwr yn bennaf.
Tomos Williams
Ers symud i Gaerloyw yn yr haf mae Tomos Williams wedi sgorio wyth cais yn y Gallagher Premiership.
Nid oes chwaraewr wedi sgorio neu greu mwy o geisiau nag ef yn y gynghrair eleni.
Bydd hynny yn ffactor i brif hyfforddwr y Llewod, Andy Farrell ei hystyried wrth ddewis ei garfan ar gyfer y daith.
Mae'r mewnwr 30 oed wedi serennu i'w clwb, ond a fydd hynny'n ddigon iddo selio ei le yng ngharfan y Llewod?
Mae'n debyg mai Jamison Gibson-Park ac Alex Mitchell fydd dau ddewis cyntaf yr hyfforddwyr, ac fe fydd yn frwydr rhwng Tomos Williams a Ben White o'r Alban ar gyfer y trydydd mewnwr.
Fe allai sgiliau dwylo Williams fod o fantais iddo os ydy Farrell eisiau chwarae'n debyg i sut mae wedi gwneud gydag Iwerddon yn y gorffennol.
Dewi Lake
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Dewi Lake wedi dioddef sawl anaf sydd wedi ei atal rhag chwarae llawer i'r Gweilch a Chymru.
Ni ddechreuodd Lake un o gemau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, ond fe ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn yr Alban.
Yn ffodus i Lake mae opsiynau'r Llewod yn safle'r bachwr yn eitha prin.
Dan Sheehan yw'r ffefryn i gychwyn yn y safle hwnnw, ond mae'n debyg y bydd Lake yn ail ddewis, a Jamie George o Loegr yn drydydd dewis.
Mae Lake yn dychwelyd o'i anafiadau - ac yn gobeithio na fydd ei anafiadau blaenorol yn ei rwystro rhag chwarae dros y Llewod.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1920084617278763056
Taulupe Faletau
Yn 34 oed ac wedi chwarae pedair gêm i'r Llewod mae Taulupe Faletau yn enw arall sydd ar wefusau nifer ar gyfer y daith i Awstralia.
Mae wedi ennill dros 100 o gapiau dros Gymru ac yn chwaraewr rhyngwladol hynod brofiadol.
Yn ddiweddar mae wedi profi problemau gydag anafiadau, ond fe chwaraeodd i Gymru yn y Chwe Gwlad.
Fe allai ei brofiad fod o gymorth mawr i'r garfan, yn enwedig o ystyried mai dyma fydd ei bedwaredd taith gyda'r Llewod pe bai'n cael ei ddewis.
Sgoriodd gais agoriadol y Llewod yn eu buddugoliaeth hanesyddol 24-21 yn erbyn Seland Newydd yn 2017.
Chwaraeodd Faletau y nifer fwyaf o funudau i'r Llewod yn y daith honno hefyd.
Blair Murray
Yn ei flwyddyn gyntaf yn chwarae rygbi yng Nghymru mae Blair Murray wedi dal sylw nifer.
Roedd y cefnwr yn un o chwaraewyr gorau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni.
Enillodd dros 300m o dir yn ystod y gystadleuaeth, gyda phedwar chwaraewr yn unig yn ennill mwy na hynny.
Mae nifer yn meddwl y gallai Murray cael ei gynnwys fel bolter - sef chwaraewr dibrofiad sydd â chyfle bach o gael ei gynnwys yn garfan.
Mae opsiynau Andy Farrell yn y safle hwn yn eang iawn, gyda Blair Kinghorn a Hugo Keenan yn ffefrynnau i gael eu cynnwys.
Ond efallai bydd lle i Murray hefyd, yn enwedig ar ôl ei berfformiadau yn y Chwe Gwlad.