Pobl ifanc 16 ac 17 oed i gael cynnig brechlyn Covid-19

Sky News 04/08/2021
Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca. Llun: Prifysgol Rhydychen, John Cairns.
Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca.  Llun: Prifysgol Rhydychen, John Cairns.

Mae disgwyl i weinidogion ehangu'r rhaglen frechu, gyda 1.4m o bobl ifanc 16 ac 17 oed am gael cynnig brechlyn Covid-19.

Mae'r brechlyn yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i blant 12 oed a hŷn os ydynt yn byw gyda chyflwr iechyd sy’n eu gosod yn y categori risg uchel, neu os ydynt yn byw gyda rhywun sydd yn imiwnoataliedig.

Dywedodd prif ohebydd gwleidyddol Sky News, Jon Craig bod y newid yn "gam mawr ymlaen yn y rhaglen frechu."

Fe gafodd y newid mewn polisi ei awgrymu gyntaf gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddydd Mawrth.

Dywedodd Ms Sturgeon: "Rydym yn aros am gyngor y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.

"Pan dwi'n dweud 'ni', rydw i'n amlwg yn cyfeirio at lywodraeth yr Alban, ond mae llywodraethau'r DU, Cymru a Gogledd Iwerddon yn yr un sefyllfa."

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Prifysgol Rhydychen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.