Newyddion S4C

British Steel yn cyflogi gweithwyr am y tro cyntaf ers i'r llywodraeth ymyrryd

Scunthorpe.

Bydd British Steel yn dechrau cyflogi gweithwyr am y tro cyntaf ers i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth o’r cwmni ym mis Ebrill. 

Fis Mawrth cyflwynodd cwmni Tsieinaidd Jingye, a brynodd British Steel yn 2020, gynllun i gau dwy ffwrnais chwyth yn Scunthorpe, Sir Lincoln. 

Arweiniodd hynny at gyfnod ymgynghori, a fyddai'n effeithio ar 2,000 i 2,700 o swyddi yno. 

Cyhoeddodd y cwmni yn ddiweddarach ym mis Ebrill y byddai'n dod ag ymgynghoriad ar ddyfodol hyd at 2,700 o swyddi i ben wedi i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth o’r cwmni.

Mae’r penderfyniad i achub y safle wedi cael ei feirniadu gan rai gwleidyddion sydd wedi cwestiynu pam nad oedd yr un camau wedi eu cymryd ar gyfer safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, lle mae swyddi wedi eu colli. 

Dywedodd un o weinidogion Llywodraeth y DU ym mis Ebrill fod ymyrraeth y llywodraeth i achub safle dur Scunthorpe yn wahanol i achos Port Talbot.

Dywedodd y gweinidog diwydiant Sarah Jones bod cwmni preifat yn barod i fuddsoddi ym Mhort Talbot tra nad oedd hynny yn wir yn achos gwaith dur British Steel yn Scunthorpe.

Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau y bydd yn cyflogi mwy na 180 o weithwyr newydd.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni ei fod wedi sicrhau'r deunyddiau crai i gynnal dwy ffwrnais chwyth ar ei safle yn Scunthorpe ac fe fydd yn cynyddu cynhyrchiad haearn a dur yn helaeth dros y misoedd nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.