Newyddion S4C

Rhyfel yn Wcráin yn dangos nad yw gwersi'r Ail Ryfel Byd yn 'ddim ond hanes'

Syr Keir Starmer / Rhyfel Wcrain

Ar ddiwrnod dathlu Buddugoliaeth yn Ewrop, mae Syr Keir Starmer yn dweud bod y rhyfel yn Wcráin yn dangos nad yw'r Ail Ryfel Byd yn "ddim ond hanes" yn unig.

Bydd dathliadau ar draws y DU ddydd Iau i nodi 80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben yn Ewrop.

Ers dydd Llun mae digwyddiadau wedi eu cynnal ar draws y DU, gan gynnwys milwyr o Wcráin yn ymuno â milwyr o Brydain mewn gorymdaith yn Llundain.

Mae'r rhyfel rhwng Wcráin a Rwsia yn parhau dros dair blynedd ers i luoedd Rwsia geisio goresgyn tir yn Wcráin.

Wrth siarad ar bodlediad We Have Ways Of Making You Talk yn 10 Downing Street, dywedodd Syr Keir Starmer fod y sefyllfa yn Wcráin yn dangos "pwysigrwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ein hanes."

"Roedd yn rhan fawr o'n hanes, hanes y dylem ni fod yn falch iawn ohono fel gwlad," meddai.

"Mae gen i blant sydd yn byw mewn heddwch a gwlad ddemocrataidd oherwydd pobl eraill, sydd yn anhygoel.

"Ac mae'r milwyr o Wcráin yn yr orymdaith yn Llundain yn eich hatgoffa fod y syniad hyn mai dim ond hanes ydi o erbyn hyn ac nad yw o bwys heddiw yn hollol anghywir.

"Mae'r gwerthoedd yna o ryddid a democratiaeth yn bwysig heddiw."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo "cyfrifoldeb personol" i gadw'r heddwch y mae'r rhan fwyaf o Ewrop wedi ei fwynhau ers 1945.

Aeth ymlaen i ddweud fod ei waith gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, i sicrhau tasglu heddwch yn Wcráin pe bai cadoediad rhwng y ddwy wlad yn dangos bod Prydain yn "camu fyny fel gwlad" fel y gwnaethon nhw 80 mlynedd yn ôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.