Newyddion S4C

'Mistar Urdd': Enw newydd ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru

'Mistar Urdd': Enw newydd ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru

'Mistar Urdd' ydy'r enw newydd ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru.

Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yn ddiweddarach ym mis Mai, fe gafodd enw newydd y trên ei ddadorchuddio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog ddydd Mercher. 

Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a Phrif Swyddog Gweithredol yr Urdd Siân Lewis yn bresennol.

Fe wnaeth y trên adael gorsaf Caerdydd Canolog er mwyn gwneud y daith 41 munud i Bort Talbot, dafliad carreg i ffwrdd o leoliad yr Eisteddfod eleni. 

Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025 yn cael ei chynnal rhwng 26 Mai a 31 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.