Soprano o Wcráin yn cystadlu yng Nghymru ar ôl ffoi o’i chartref
Mae cantores glasurol o Wcráin yn gobeithio ailddechrau ei gyrfa yng Nghymru wedi iddi ffoi o’i chartref gyda’i phlant.
Mae’r soprano Khrystyna Makar yn un o 25 o gantorion o bob cwr o’r byd a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, fis Gorffennaf.
Fe wnaeth hi ffoi o’i chartref yn Wcráin gyda’i dau fab ifanc yn 2022, gan adael ei gŵr Volodimir, a’i rhieni yn eu dinas enedigol Lviv.
Bydd Khrystyna, sy'n byw yn Shotton, yn Sir y Fflint, yn wynebu cystadleuwyr o UDA, Tsieina a De Affrica yn ogystal â Chymru a Lloegr yn y gystadleuaeth rhuban glas.
Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Pendine gan Syr Bryn Terfel, ynghyd â siec o £3,000, tra bydd yr ail yn y gystadleuaeth yn derbyn £1,000.
Cyn ymosodiad byddin Putin yn 2022, roedd Khrystyna yn gantores glasurol lwyddiannus a oedd wedi perfformio ledled Wcráin.
Mae hi hefyd wedi perfformio mewn neuaddau cyngerdd yn Yr Almaen, Awstria, y Swistir a Sgandinafia.
Wedi iddi gyrraedd Cymru, roedd Khrystyna’n byw i ddechrau yn Llangrannog gyda’i meibion, cyn symud i Aberystwyth ac yna ymgartrefu yn Shotton.
Ers hynny, mae hi wedi bod yn awyddus i gael perfformio eto, ac mae hi’n credu y bydd cystadlu yn Eisteddfod Llangollen yn helpu.
Mae Khrystyna yn gobeithio y gall y digwyddiad roi hwb i'w chyfleoedd canu yn y DU ac yn y cyfamser mae'n gwneud teithiau adref i weld ei gŵr a'i theulu.
'Diolchgar'
Dywedodd Khrystyna ei bod hi newydd ddychwelyd o ymweliad a gyd-darodd ag ymosodiad gan daflegrau Rwsia ar floc o fflatiau yn Kyiv, prifddinas Wcráin.
Cafodd 12 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad ac anafwyd dros 80 ac meddai Khrystyna: "Mae'n anodd ond mae pobl yn dal i geisio cadw i fynd.
"Roedd hi'n adeg y Pasg felly roedden ni'n gallu dathlu gyda fy ngŵr a’m rhieni - dydyn ni ddim yn colli ein traddodiadau hyd yn oed yn yr amseroedd hyn.
"Mae Lviv yng ngorllewin y wlad felly mae'n eithaf pell o'r rhyfel ond weithiau mae taflegrau yn dod i lawr yno. Mae pob man yn beryglus ond mae pobl yn dal i geisio adeiladu eu bywydau,” meddai.
Dywedodd ei bod yn “ddiolchgar iawn” am y gefnogaeth y mae hi a’i theulu wedi ei gael gan bobl Cymru a Lloegr.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Syr Bryn Terfel fod y gystadleuaeth yn “gyfle gwych i gantorion ifanc talentog wneud eu marc”, ac yn rhoi “man cychwyn go iawn ar gyfer gyrfaoedd newydd ar y llwyfan byd-eang”.
Yn ôl Mario Kreft MBE a'i wraig, Gill, perchnogion Parc Pendine, sy’n noddi‘r gystadleuaeth, “mae safon y cystadleuwyr yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hollol syfrdanol".
“A does gen i ddim amheuaeth y bydd yr un mor anhygoel o uchel eto eleni.
“Bonws ychwanegol i'r cystadleuwyr eleni fydd y wefr o ymddangos ar yr un llwyfan â Syr Bryn Terfel, cawr go iawn o'r byd opera," meddai.