Cyngor Caerffili i benderfynu ar gau tair canolfan hamdden yn y sir
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystyried cau tair canolfan hamdden yn y sir.
Fe fydd cabinet y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod ar 14 Mai.
Y tair canolfan sydd yn y fantol yw Canolfan Hamdden Bedwas, Canolfan Hamdden Cefn Fforest a Chanolfan Hamdden Tredegar Newydd.
Bwriad y cyngor yw canolbwyntio ar fuddsoddi mewn pedair canolfan arall er mwyn gwella eu darpariaeth i'r cyhoedd yn y dyfodol.
Mae'r pedair canolfan yma yn y Rhisga, Heolddu, Caerffili a Threcelyn.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod y Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd a Gwasanaethau Hamdden, “Dyma’r cam nesaf yng ngweithrediad ein strategaeth SARS y cytunwyd arni yn 2019, sydd wedi’i chyflymu gan yr heriau ariannol digynsail sy’n wynebu’r cyngor ar hyn o bryd.
“Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaeth hamdden yn y dyfodol ac rydw i’n awyddus i dynnu sylw at y buddsoddiad enfawr sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf mewn cyfleusterau modern, addas fel caeau 3G, hwb athletau, cyfleusterau nofio wedi’u huwchraddio a chyfleusterau chwaraeon eraill.
“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad diweddar gan y bydd yr adborth hwn yn helpu i siapio’r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn yn y dyfodol.
“Os byddwn yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau i leihau i bedair canolfan hamdden strategol, yna bydd bron pob cymuned yn y fwrdeistref sirol o fewn pellter teithio o bum milltir i un o’r pedwar safle strategol,” ychwanegodd.