Rihanna yn disgwyl ei thrydydd plentyn
Mae Rihanna wedi cyhoeddi ei bod hi a’i phartner, A$AP Rocky, yn disgwyl eu trydydd plentyn wrth iddi ymddangos yn y Met Gala.
Dangosodd y gantores ei bol babi ar garped glas y Met Gala ddydd Llun.
Mae gan Rihanna a’i phartner, A$AP Rocky ddau fab yn barod.
Roedd hi’r olaf i gyrraedd y digwyddiad elusennol ar gyfer Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd, sy'n nodi agoriad arddangosfa ffasiwn flynyddol ei Sefydliad Gwisgoedd.
Cysyniad eleni oedd "Superfine: Tailoring Black Style," y cyntaf ers 2003 i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar ddillad dynion.
Cadarnhaodd A$AP Rocky, cyd-gadeirydd y digwyddiad, newyddion beichiogrwydd y cwpl ar y carped coch.
"Diolch, diolch, diolch," meddai'r rapiwr.
"Rwy'n falch bod pawb yn hapus, oherwydd rydym yn bendant yn hapus", ychwanegodd.