Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd hi'n "aros yn dawel" os yw Llywodraeth y DU yn gwneud "penderfyniadau rydyn ni yn meddwl fydd yn niweidio cymunedau Cymru."
Mewn araith yn nodi blwyddyn tan Etholiadau'r Senedd 2026 dywedodd y Farwnes Eluned Morgan "na fydd hi yn oedi i herio oddi mewn".
Daw hyn yn sgil polisi dadleuol Llywodraeth y DU gan gynnwys torri budd-daliadau.
Dywedodd hefyd bod "dyfodol Cymru yn y fantol" wrth i'r blaid Lafur edrych ar yr her sydd yn ei hwynebu gan Reform UK.
Daw ei sylwadau wedi canlyniadau siomedig diweddar i Syr Keir Starmer yn yr etholiadau lleol yn Lloegr. Fe enillodd Reform reolaeth dros 10 cyngor a 600 o seddi.
Dywedodd Nigel Farage, arweinydd Reform ddydd Gwener bod y blaid yn targedu etholiadau Cymru a'r Alban nesaf.
'Ddim yn aros yn dawel'
Mae'r polau piniwn ym mis Ebrill yn awgrymu bod pleidleiswyr wedi eu rhannu pan mae'n dod i etholiadau'r Senedd gyda'r darogan y byddai Llafur yn cael 27% o'r bleidlais a Reform a Plaid Cymru yn cael 24%.
Byddai hyn yn gwymp mawr i'r blaid Lafur a lwyddodd i ennill 39.9% o'r bleidlais yn yr etholiadau diwethaf yn 2021.
Dywedodd Eluned Morgan y bydd y blaid Lafur yng Nghymru yn codi llais os nad ydynt yn cytuno gyda pholisïau Llywodraeth y DU.
"Pan fyddwn yn anghytuno byddwn yn dweud hynny, pan fyddwn yn gweld annhegwch byddwn yn herio hynny.
“A phan fydd San Steffan yn gwneud penderfyniadau rydyn ni’n meddwl bydd yn niweidio cymunedau Cymreig, fyddwn ni ddim yn aros yn dawel.”
Ychwanegodd: “Fyddai ddim yn oedi cyn herio o’r tu mewn, hyd yn oed pan fydd yn golygu rhoi ysgytwad i bethau ac amharu ar y cyfforddus.”
Dyma fydd etholiadau cyntaf Y Farwnes Morgan fel arweinydd y blaid.
Dywedodd ei bod hi'n deall "baich y cyfrifoldeb" pan wnaeth hi gymryd y rôl ac yr oedd yna "angen" am newid.
"System bleidleisio newydd. Cyfnod newydd. Llywodraeth sydd yn barod wedi cyflawni am 27 mlynedd. Nawr gyda thwf Reform a pheryglon pleidlais chwith ranedig, mae dyfodol Cymru yn y fantol."
Llun: PA