Dau rasiwr beic modur wedi marw yn ystod ras Pencampwriaeth Supersport
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ddau rasiwr beic farw mewn gwrthdrawiad yn ystod ras Pencampwriaeth Supersport Prydain.
Roedd y gwrthdrawiad ddigwyddodd ym Mharc Oulton yn Swydd Gaer yn cynnwys 11 o feiciau modur.
Fe gafodd Owen Jenner, 21 o Loegr, driniaeth ar ochr y trac a’i gludo i ganolfan feddygol y safle. Ond fe ddywedodd trefnwyr y bencampwriaeth iddo farw o “anaf trychinebus i’w ben”.
Dioddefodd Shane Richardson, 29 o Seland Newydd, anafiadau difrifol i'w frest a chafodd driniaeth yn y fan a'r lle hefyd.
Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Royal Stoke ond fe fuodd farw cyn iddo gyrraedd.
Mae trydydd beiciwr, Tom Tunstall, 47, yn yr un ysbyty gydag "anafiadau sylweddol i'w gefn a'i abdomen" yn ôl y trefnwyr.
Aeth pump arall o’r ras i’r ganolfan feddygol ond nid oedd angen triniaeth ysbyty arnynt.
Dywedodd Motorsport Vision Racing, sy'n cynnal y gyfres rasys, fod y ddamwain wedi digwydd ar y lap cyntaf a'u bod wedi canslo gweddill y ras.
Mae Heddlu Swydd Gaer yn dweud eu bod yn ymchwilio i'r ddwy farwolaeth ar y cyd gyda'r Crwner, Bwrdd Rheoli Rasio Cylchdaith Beiciau Modur a MotorSport Vision Racing.
Lluniau: @OwenJenner86/Instagram/@ShaneRRacing/X