Mark Williams yn colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
Mae Mark Williams wedi colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.
Fe gollodd Williams yn erbyn Zhao Xintong o 18 ffrâm i 12.
Mae Xintong, yn chwaraewr amatur yn y bencampwriaeth ac wedi dod trwy bedair rownd ragbrofol i ennill ei le.
Llwyddodd y chwaraewr 28 oed i reoli'r gêm yn llwyr yn y sesiwn gyntaf yn y Crucible ddydd Sul, gan ei roi ar y blaen o 7-1.
Ond erbyn diwedd yr ail sesiwn ddydd Sul roedd Williams wedi llwyddo i gipio pump o'r naw ffrâm.
Wedi'r sesiwn brynhawn Llun, fe enillodd Xintong chwe ffram, gan olygu mai dim ond un ffrâm yr oedd ei hangen er mwyn cipio'r teitl.
Xintong ydy'r person cyntaf o Tsieina i ennill y benampwriaeth.
Hon oedd y rownd derfynol gyntaf erioed ym Mhencamwpwriaeth Snwcer y Byd gyda'r ddau chwaraewr yn llaw chwith.
Mark Williams yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd wedi iddo drechu rhif un y byd Judd Trump o 17-14 ffram nos Sadwrn.
Dathlodd y Cymro 50 oed o bentref Cwm ger Glyn Ebwy ei ben-blwydd yn 50 oed fis Mawrth.