Newyddion S4C

Apêl am dystion wedi i yrrwr fethu ag aros ar ôl gwrthdrawiad ger Wrecsam

llangollen rd.jpg

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i yrrwr car fethu ag aros ar ôl gwrthdrawiad ger Wrecsam ddydd Sadwrn. 

Dywedodd yr heddlu fod y gwrthdrawiad yn ymwneud â cherbyd arian a beiciwr am tua 11.30 ar Ffordd Llangollen oddi ar gylchfan Rhiwabon. 

Ni wnaeth y cerbyd aros yn safle'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un â gwybodaeth. 

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000366308.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.