Donald Trump eisiau ail-agor carchar Alcatraz
Mae'r Arlywydd Donald Trump yn awyddus i ail-agor ac ehangu carchar Alcatraz yn San Francisco.
Mewn neges ddydd Sul, dywedodd Mr Trump fod "America wedi cael ei heffeithio am yn rhy hir gan droseddwyr creulon a threisgar".
Byddai ail-agor Alcatraz yn "symbol o gyfraith, trefn a chyfiawnder" meddai.
Yn adnabyddus am fod yn un o garchardai mwyaf llym America, fe gafodd y safle ei gau ym 1963 ac mae ar hyn o bryd yn gweithredu fel safle twristiaeth llwyddiannus.
Byddai'r carchar yn "gartref i rai o droseddwyr mwyaf treisgar America" yn ôl Mr Trump.
Yn wreiddiol, caer amddiffyn forwrol oedd Alcatraz, ac fe gafodd ei hailadeiladu ar ddechrau'r 20fed ganrif fel carchar milwrol.
Fe wnaeth y carchar gau am ei fod yn rhy ddrud i barhau i weithredu.
Roedd bron i dair gwaith yn fwy drud nag unrhyw garchar ffederal arall, a hynny yn rhannol am ei fod wedi ei leoli ar ynys.