Newyddion S4C

Cynllun i orfodi sefydliadau pêl-droed i dalu costau gofal ar gyfer cyn-chwaraewyr â dementia

Pel-droed

Gallai sefydliadau pêl-droed gael eu gorfodi i gyfrannu tuag at gostau gofal cyn-chwaraewyr sydd wedi dioddef cyflyrau ar yr ymennydd sy'n gysylltiedig â'r gamp, gan gynnwys dementia.

Mae ymgyrchwyr eisiau cyflwyno newidiadau i'r Bil Llywodraethu Pêl-droed yn Senedd San Steffan, gyda'r nod o drin y cyflyrau fel "anafiadau diwydiannol".

Mae’r newidiadau yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i’r diwydiant pêl-droed ddarparu cymorth ariannol yn sgil pryderon nad yw’r trefniadau presennol yn addas.

Byddai'r newidiadau'n effeithio ar sefydliadau fel cymdeithasau pêl-droed, a'r Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA).

Daw wrth i'r ymgyrchwyr feirniadu Cronfa Iechyd yr Ymennydd a gafodd ei sefydlu yn 2023 gan undeb y PFA gyda chefnogaeth yr Uwch Gynghrair yn Lloegr.

Yn ôl yr Uwch Gynghrair, mae'r gronfa wedi cefnogi 121 o deuluoedd gydag addasiadau yn y cartref a ffioedd cartrefi gofal.

Byddai’r newidiadau i'r Bil Llywodraethu Pêl-droed yn creu rheolydd annibynnol ar gyfer pum haen uchaf gêm y dynion yn Lloegr.

Y bwriad, meddai'r ymgyrchwyr, yw sicrhau bod clybiau’n cael eu rhedeg yn gynaliadwy ac yn atebol i’w cefnogwyr.

'Poeni'

Ymhlith y rhai sy’n rhoi pwysau ar y sefydliadau pêl-droed i gyfrannu at gostau gofal uchel mae AS Llafur Caerffili, Chris Evans.

Mae Mr Evans yn gobeithio diwygio'r mesur er mwyn sefydlu cynllun ariannol i ddarparu gofal a chefnogaeth i gyn-chwaraewyr pêl-droed.

Dywedodd ei fod yn credu ei fod yn "hollol warthus y ffordd y mae’r PFA wedi trin y chwaraewyr hyn".

Yn ôl yr AS, dylai cyflyrau ar yr ymennydd fel dementia ac Alzheimer's gael eu trin yr un fath ag anafiadau diwydiannol eraill.

"Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn, pan mae pobl wedi talu i mewn, y dylent allu hawlio yn erbyn anaf diwydiannol neu unrhyw beth sy’n digwydd iddynt tra roeddent ar y cae, eu bod yn haeddu cael eu digolledu a sicrhau eu bod yn cael y premiwm yswiriant hwnnw wedi’i dalu," meddai.

Byddai’r newidiadau yn gweld cymal ychwanegol a fyddai’n "goruchwylio cynllun ariannol diwydiant i ddarparu gofal a chymorth i’r rhai sydd wedi dioddef ".

Byddai hefyd yn "briodol mai’r diwydiant yn hytrach na’r cyhoedd ddylai ysgwyddo’r baich ariannol", meddai.

Dywedodd Mr Evans ei fod yn "poeni" wrth wylio gemau pêl-droed.

"Dwi'n teimlo'n anghyfforddus pan dwi'n gweld fy mab wyth oed yn chwarae pêl-droed os yw’n penio’r bêl," meddai.

"Mae angen ymchwilio iddo. Ond mae’n fuddugoliaeth i gymdeithas hefyd, os bydd pêl-droed yn dechrau ymchwilio i achosion dementia, efallai y gallwn o’r diwedd ddod o hyd i iachâd ar gyfer y clefyd hwn hefyd."

Yn ôl Astudiaeth FIELD 2019, a gafodd ei hariannu ar y cyd gan yr FA yn Lloegr a'r PFA, mae pêl-droedwyr dair gwaith a hanner yn fwy tebygol o farw o glefyd niwroddirywiol nag aelodau eraill o’r boblogaeth yr un oedran.

Fe wnaeth y PFA a'r Uwch Gynghrair wrthod gwneud sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran FA Lloegr: "Rydym yn parhau i gymryd rôl arweiniol wrth adolygu a gwella diogelwch ein gêm. 

"Mae hyn yn cynnwys buddsoddi a chefnogi prosiectau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r maes hwn trwy ymchwil wrthrychol, gadarn a thrylwyr."

Ychwanegodd: "Rydym eisoes wedi cymryd llawer o gamau rhagweithiol i adolygu a mynd i’r afael â ffactorau risg posibl a allai fod yn gysylltiedig â phêl-droed tra bod ymchwil barhaus yn parhau yn y maes hwn, gan gynnwys cysylltu â chyrff llywodraethu rhyngwladol."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.