Oedi i wasanaethau trên rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn parhau yn dilyn tân
Mae oedi a chanslo gwasanaethau trên rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn parhau ddydd Llun yn dilyn tân dros y penwythnos.
Dywedodd National Rail bod tân ger y cledrau mewn is-orsaf drydan rhwng y ddwy ddinas ddydd Sul wedi difrodi ceblau a signalau.
O ganlyniad mae dau o'r pedwar o gledrau trên yn parhau ar gau tra bod y gwaith atgyweirio yn cael ei gwblhau.
Mae hyn yn golygu y gall trenau gael eu canslo, eu gohirio hyd at 60 munud neu eu hadolygu.
Ac mae disgwyl i'r trafferthion barhau i effeithio ar wasanaethau trên tan ddiwedd y dydd ddydd Mawrth.
Mae gwasanaeth bws yn lle trên bellach ar waith yn y brifddinas.
Yn ôl National Rail, mae'r sefyllfa wedi effeithio ar y gwasanaethau canlynol:
Gwasanaeth CrossCountry rhwng Nottingham a Chaerdydd Canolog
Gwasanaeth Great Western Railway rhwng Penzance a Chaerdydd Canolog
Gwasanaeth Great Western Railway rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd Canolog / Abertawe / Caerfyrddin
Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Caergybi a Chaerdydd Canolog
Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Manceinion Piccadilly ac Abertawe / Aberdaugleddau