Newyddion S4C

Heddlu yn 'atal ymosodiad' mewn cyngerdd Lady Gaga

Cyngerdd Lady Gaga ar draeth Copacabana yn Rio de Janeiro

Mae'r heddlu ym Mrasil wedi cyhoeddi eu bod wedi atal ymosodiad a oedd wedi ei drefnu yn honedig ar gyfer cyngerdd y gantores Lady Gaga ar draeth Copacabana yn Rio de Janeiro ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr heddlu, roedd cynllwyn ar droed i gynnal ymosodiadau gyda ffrwydron. 

Mae person a oedd yn gyfrifol am y cynllwyn yn honedig, wedi ei arestio, yn ogystal â pherson yn ei arddegau. 

Yn ôl yr awdurdodau, roedd y grŵp a oedd yn gyfrifol wedi bod yn ymledu casineb, yn bennaf yn erbyn plant, pobl ifanc a'r gymuned LGBTQIA+.

Dywedodd yr heddlu bod y person sy'n cael ei amau o gynllwynio'r ymosodiad honedig wedi ei arestio ar amheuaeth o fod â gwn yn ei feddiant.

Mae'r person yn ei arddegau wedi ei arestio ar amheuaeth o storio pornograffi plant. 

Roedd tua dwy filiwn o bobl yn bresennol yng nghyngerdd Lady Gaga dydd Sadwrn. Doedd dim tâl mynediad.

Doedd y gantores ddim wedi perfformio ym Mrasil ers 2012.   

Mae hi ar hyn o bryd ar daith er mwyn hyrwyddo ei hwythfed albwm Mayhem. 

Llun: Reuters

          

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.