Rhybudd i gymryd gofal wrth fynd i'r môr
Ar benwythnos gŵyl y banc heulog, mae Bad Achub Cricieth yng Ngwynedd yn rhybuddio pobl i gymryd gofal wrth fynd i'r môr wedi iddyn nhw dderbyn dwy alwad ar yr un adeg brynhawn Gwener.
Roedd y digwyddiad cyntaf yn dilyn sawl galwad 999 i Wylwyr y Glannau yn ymwneud â phlentyn a oedd wedi cymryd jet-sgi a syrthio ar draeth Morfa Bychan ger Porthmadog.
Wrth i'r Bad Achub ddechrau chwilio, daeth adroddiadau bod y plentyn wedi'i ddarganfod yn ddiogel.
Wedi cadarnhad bod y plentyn yn ddiogel, cynorthwyodd criw’r bad achub yn y gwaith o gludo'r jet-sgi yn ôl i’r traeth.
Wrth i'r alwad gyntaf ddod i ben, cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i bentref gwyliau Hafan-y-Môr ger Pwllheli, wedi adroddiadau fod pedwar padl-fyrddwyr yn brwydro yn erbyn gwynt ar y môr.
Llwyddodd y padlfyrddwyr i gyrraedd y lan yn ddiogel, cyn i'r criw achub gyrraedd.
"Wrth i'r tywydd cynnes ddychwelyd, mae'r RNLI yn atgoffa'r cyhoedd i gymryd gofal wrth fynd i'r môr ac i sicrhau bod offer yn ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio," meddai neges gan Fad Achub Cricieth.