Lorraine Kelly yn cael llawdriniaeth i dynnu ei hofarïau
Mae’r cyflwynydd Lorraine Kelly wedi dweud y bydd yn cael llawdriniaeth i dynnu ei hofarïau a’i thiwbiau ffalopaidd.
Wrth rannu fideo ar ei chyfrif Instagram ddydd Sadwrn dywedodd Lorraine, 65 oed, ei bod yn cymryd camau “rhagofalus” drwy gael llawdriniaeth twll clo i dynnu ei hofarïau.
Bu’n rhaid iddi gael y llawdriniaeth ar ôl cael “ychydig o sganiau a phrofion” a hynny wedi iddi deimlo’n sâl am gyfnod, esboniodd.
“O’n i jyst eisiau rhoi gwybod i chi ‘mod i’n cael llawdriniaeth fach heddiw,” meddai.
Dywedodd bod meddygon yn edrych ar ei hôl ac roedd hi hefyd yn ddiolchgar i’w gynaecolegydd Dr Ahmed Raafat.
“Byddai’n eich gweld chi’n fuan yn amlwg, 'dw i yn mynd i fod yn hollol iawn – wela’i chi’n fuan,” meddai.
Mae ei chydweithwyr yn ITV, Susanna Reid, Charlotte Hawkins a Katie Piper wedi dymuno’n dda iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.