Y Ceidwadwyr a Llafur o dan bwysau wedi llwyddiant Reform yn etholiadau Lloegr
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer ac arweinydd y Ceidwadwyr yn San Steffan, Kemi Badenoch o dan bwysau wedi llwyddiant plaid Reform UK yn etholiadau lleol Lloegr.
Yn ôl arweinydd Reform, Nigel Farage mae'r canlyniadau yn golygu fod cyfnod "gwleidyddiaeth ddwy blaid ar ben."
Dywedodd hefyd fod y canlyniad yn dynodi "marwolaeth y Blaid Geidwadol," wrth i Reform gipio 10 cyngor a mwy na 600 o seddi yn yr etholiadau a gafodd eu cynnal ddydd Iau.
Collodd y Ceidwadwyr mwy na 600 o gynghorwyr a cholli'r 15 o gynghorau yr oedden nhw yn eu rheoli.
Dyma un o'r canlyniadau gwaethaf yn hanes y blaid.
Mae Kemi Badenoch wedi ymddiheuro i'r cynghorwyr Ceidwadol a gollodd eu seddi.
Yn y cyfamser, mae nifer o wleidyddion y Blaid Lafur wedi galw ar Syr Keir Starmer i newid llwybr, ar ôl i Reform ennill is-etholiad Runcorn a Helsby. Chwe phleidlais yn unig oedd rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden bod y canlyniadau yn dangos bod "angen i Lafur ddechrau gweithredu'r newid y mae pobl wedi pleidleisio drosto."
"Byddai cael gwared â cynlluniau i dorri budd-daliadau anabledd, a mynd ati go iawn i drethi'r mwyaf cyfoethog yn ein cymdeithas yn fan cychwyn da," meddai.
Ar y meinciau cefn, dywedodd Aelod Seneddol Llafur South Shields Emma Lewell, bod angen "newid y cynllun" bellach.
Ond yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mae "prawf fod pethau o'r diwedd yn mynd tua'r cyfeiriad cywir."
"Rwy'n ymwybodol nad yw pobl yn teimlo effaith hynny eto," ychwanegodd Syr Keir Starmer .
Roedd canlyniadau etholiadau Lloegr yn galonogol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'r blaid yn sicrhau 163 yn fwy o seddi ac yn cymryd rheolaeth ar dri chyngor.
Dywedodd eu harweinydd, Syr Ed Davey: “Rydym wedi goddiweddyd y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol hyn, ac rydym ar y llwybr cywir i'w goddiweddyd yn yr etholiad cyffredinol nesaf hefyd."
Lluniau: Kemi Badenoch (Jacob King/PA Wire), Syr Keir Starmer (Henry Nicholls/PA Wire)