Co-op yn ymddiheuro ar ôl i hacwyr gael gafael ar fanylion cyswllt
Mae'r Co-op wedi ymddiheuro, ar ôl i hacwyr lwyddo i gael gafael ar fanylion personol aelodau.
Mae enwau a manylion cyswllt ym meddiant yr hacwyr.
Yn ôl y cwmni manwerthu, mae rhywrai, drwy "ymdrechion maleisus" wedi llwyddo i fynd i mewn i'w systemau.
Roedd y Co-op eisoes wedi cau rhannau o'u systemau technoleg gwybodaeth yn gynharach yr wythnos hon.
Daw trafferthion y Co-op wedi i gwmnïau Harrods a Marks & Spencer gael eu taro gan ymosodiadau seibr.
Mae Marks and Spencer yn dal i wynebu trafferthion, gyda'r cwmni yn methu cynnal eu busnes ar-lein ers dydd Gwener 25 Ebrill.
Mae'r Asiantaeth Droseddau yn cynnal ymchwiliad i'r holl achosion, ac yn eu trin ar wahân ar hyn o bryd, ond maen nhw'n asesu hefyd y posiblrwydd y gallai fod cysylltiad rhwng y tri achos.
Dywedodd llefarydd ar ran y Co-op: “Roedd y data yn cynnwys gwybodaeth am nifer fawr o'n haelodau presennol a chyn aelodau
“Roedd y data yn cynnwys enwau a manylion cyswllt, ond nid cyfrineiriau aelodau, na'u manylion banc neu gardiau credyd.
“Rydym wedi cyflwyno mesurau er mwyn sicrhau bod modd atal mynediad sydd heb ei awdurdodi i'n systemau, tra'n ceisio gwneud yn siŵr fod y sefyllfa hon yn amharu cyn lleied â phosibl ar ein haelodau, cwsmeriaid a phartneriaid.
“Mae'n wir ddrwg gennym fod hyn wedi digwydd.”
Yn ôl y cwmni, mae'r sefyllfa wedi effeithio ar eu swyddfeydd a'u canolfannau galw, ond mae eu dros 2,000 o siopau bwyd a'u gwasanaethau angladdol yn gweithredu yn ôl yr arfer.