Damwain EgyptAir a laddodd dyn o dde Cymru wedi'i hachosi gan dân medd crwner
Roedd damwain awyren EgyptAir a laddodd dyn o dde Cymru wedi'i hachosi gan dân yng nghaban y peilot, meddai crwner.
Bu farw Richard Osman, a gafodd ei fagu yng Nghaerfyrddin, ynghyd â 65 arall bron i ddegawd yn ôl pan wnaeth awyren EgyptAir MS804 ddiflannu dros Fôr y Canoldir ym mis Mai 2016.
Mewn cwest ddydd Gwener, fe wnaeth crwner wfftio awgrym ymchwilydd o’r Aifft fod ffrwydrad bwriadol wedi bod ar yr awyren.
Yn lle hynny, fe wnaeth gytuno ag arbenigwr o Brydain a oedd yn credu mai tân oedd wedi achosi'r ddamwain.
Ei gred yw fod y tân wedi ei gynnau gan ollyngiad ocsigen yng nghaban y peilot (y cockpit).
Dywedodd y crwner fod y cwest wedi ei ohirio'n sylweddol tra'u bod yn aros i'r holl dystiolaeth gael ei chyflwyno.
Roedd Mr Osman yn teithio o Baris i Cairo pan aeth ei awyren ar goll wrth hedfan dros Wlad Groeg.
Clywodd y cwest y byddai’r tân wedi lledu’n gyflym drwy’r dec hedfan, gan olygu na allai’r awyren gael ei rheoli, gan arwain at y ddamwain.
Roedd tua 59 o deithwyr ar ei bwrdd, dau griw hedfan a phum cynorthwyydd caban.
Nid oedd unrhyw oroeswyr.
Esboniadau gwrthgyferbyniol
Dywedodd Mark Layton, crwner Sir Gaerfyrddin, fod dau esboniad gwrthgyferbyniol wedi bod am achos y ddamwain.
Roedd yr esboniadau yma wedi cael eu cyflwyno gan ymchwilwyr o Ffrainc a'r Aifft.
Clywodd gan Ken Fairbank, arbenigwr hedfan ym Mhrydain, a oedd wedi cefnogi adroddiad Ffrainc.
Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad mai tân yng nghaban y peilot oedd achos tebygol y ddamwain.
Dywedodd Mr Layton fod adroddiad yr Aifft wedi dod i’r casgliad ei fod yn debygol mai "dyfais ffrwydrol a gafodd ei chuddio" wnaeth achosi'r tân.
Ond dywedodd Mr Fairbank ei fod yn credu "nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi ffrwydrad ar yr awyren".
"Rwy’n credu bod y tân yn fwyaf tebygol o fod wedi'i gynnau wrth ymyl safle’r swyddog cyntaf ar ochr dde’r dec hedfan," meddai.
Dywedodd Mr Fairbank fod sŵn hisian a "pop" i’w clywed ar recordiad bocs du yn y caban, ond doedd dim sŵn ffrwydrad, gyda phobol yn dweud "tân".
Dywedodd Mr Layton ei fod yn derbyn casgliad Mr Fairbank "yn llwyr".
Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol i edrych ar ffyrdd o sicrhau nad yw'r drasiedi'n cael ei ailadrodd yn y dyfodol.
'Diweddglo'
Mewn datganiad, dywedodd gweddw Mr Osman, Aurelie Vandeputte, y byddai'n gallu "cloi'r bennod hon nawr".
"Heddiw, fe gafodd cwest i farwolaeth Richard ei gynnal o’r diwedd, ychydig yn llai na naw mlynedd ar ôl ei farwolaeth," meddai.
"Mae’r blynyddoedd hir hynny wedi bod yn ddirdynnol, gyda blynyddoedd o anhrefn ac amharch tuag at gyrff y dioddefwyr, emosiynau eu teuluoedd, diffyg gwybodaeth a dyfalu.
"Rwy’n hynod ddiolchgar i’r uwch grwner Mr Mark Layton, sydd, ar hyd y blynyddoedd hynny, wedi parhau’n ymroddedig i’n taith am wirionedd ac wedi fy helpu i, ein merched a theulu a ffrindiau ehangach Richard i ddod o hyd i ddiweddglo drwy'r broses cwest.
"Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i awdurdodau Cymru am y buddsoddiad parhaus yn y broses.
"Hoffwn hefyd estyn fy niolch i Mr Fairbank am ei arbenigedd a’i ystyriaeth ofalus o’r ddamwain.
"Gallwn gloi’r bennod hon nawr. Fe wnaeth cariad a gwerthoedd Richard ein hysbrydoli bob dydd o’r daith hon a bydd yn parhau i’n hadeiladu dros y blynyddoedd."