Mark Williams ar ei hôl hi ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd
Fe orffennodd y Cymro Mark Williams ar ei hôl hi yn ei sesiwn gyntaf yn erbyn Judd Trump yn rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd nos Iau.
Fe fydd y chwarae yn ail-ddechrau am 14.30 yn y Crucible brynhawn dydd Gwener.
5-3 oedd y sgôr ar ddiwedd y sesiwn ddydd Iau.
Roedd yn gêm gyfartal ar un adeg gyda sgôr yn 3-3.
Ond fe lwyddodd Judd Trump i gipio tair ffrâm yn olynol gan orffen y sesiwn ar y blaen.
Fe fyddan nhw’n dychwelyd i’r chwarae am wyth ffrâm arall ddydd Gwener.
Bydd y cyntaf i 17 ddydd Sadwrn yn wynebu Ronnie O’Sullivan neu Zhao Xintong yn rownd derfynol y Bencampwriaeth.