Newyddion S4C

Gwynedd: Cludo person i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad

Garn

Mae person wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd brynhawn ddydd Iau. 

Fe gafodd Heddlu’r Gogledd eu galw am 17.00 yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 yn ardal Garndolbenmaen. 

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: “Cafodd y ffordd ei chau tra'r oedd y gwasanaethau brys yn delio gyda’r digwyddiad a arweiniodd at un person yn cael ei gludo i’r ysbyty.” 

Dywedodd Traffig Cymru nos Iau bod disgwyl i’r ffordd rhwng Tremadog a Bryncir barhau ar gau “am gyfnod sylweddol.”

Mae’r ffordd bellach wedi ail agor. 

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.