Ergyd i Starmer wedi i Reform UK gipio isetholiad Runcorn a Helsby
Mae plaid Reform UK wedi trechu Llafur yn yr isetholiad cyntaf i blaid Syr Keir Starmer ei wynebu ers yr etholiad cyffredinol.
Sarah Pochin fydd yr Aelod Seneddol newydd ar etholaeth Runcorn a Helsby i Reform.
Mae'r blaid wedi llwyddo i sicrhau grym i'w maer cyntaf hefyd, a hynny yn Sir Lincoln.
Cafodd ailgyfrif llawn ei gynnal yn gynnar ddydd Gwener yn Runcorn a Helsby, gyda dim ond chwe phleidlais rhwng Reform a Llafur.
Roedd yn ddatblygiad dramatig mewn sedd yr oedd gan y blaid Lafur fwyafrif o 14,696 yn etholiad cyffredinol 2024.
Sbardunwyd yr is-etholiad pan roddodd y cyn AS Llafur Mike Amesbury y gorau iddi ar ôl cyfaddef iddo ddyrnu etholwr.
Fe fydd y newyddion yn ergyd i Lafur a Starmer, gyda chanlyniad etholiad 2024 yn awgrymu y dylai fod wedi bod yn sedd ddiogel i Lafur ei chadw – enillodd Amesbury 53% o’r bleidlais bryd hynny.
Y ganran a bleidleisiodd yn y sedd oedd 46.33%, gyda 32,740 o bobl wedi pleidleisio.
Dros nos mae Reform wedi profi llwyddiant mewn ardaloedd eraill o Loegr yn yr etholiadau lleol yno hefyd.
Hyd yma mae pedwar maer wedi cael eu hethol, gan gynnwys maer cyntaf Reform yn Sir Lincoln.
Mae'r blaid Lafur wedi llwyddo i gadw meiri yng Ngogledd Tyneside, Gorllewin Lloegr a Doncaster - gyda Reform yn ail ac yn agos ar eu holau yn y tri awdurdod.
'Moment fawr'
Yn dilyn ei buddugoliaeth yn Runcorn a Helsby, dywedodd Ms Pochin bod etholwyr bellach wedi eu gwneud yn glir mai "digon yw digon."
"Digon o fethiannau'r Ceidwadwyr, digon o gelwyddau Llafur," meddai.
Dywedodd Nigel Farage, arweinydd y blaid: “I’r mudiad, i’r blaid, mae’n foment fawr iawn, iawn yn wir, yn hollol, dim cwestiwn, ac mae’n digwydd ledled Lloegr.”
Dywedodd Llafur fod is-etholiadau “bob amser yn anodd i’r blaid sydd mewn Llywodraeth” a bod y digwyddiadau o amgylch pleidlais Runcorn a Helsby yn ei gwneud hi’n “anoddach fyth”.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid: “Mae yna arwyddion calonogol bod ein cynllun ar gyfer newid yn gweithio – rhestrau aros y GIG, chwyddiant a chyfraddau llog i lawr gyda chyflogau i fyny – ond byddwn yn mynd ymhellach ac yn gyflymach i sicrhau newid gyda ffocws di-baid ar roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.”
Roedd rhywfaint o newyddion da i Lafur wrth i Helen Godwin guro Arron Banks o Reform o 5,945 o bleidleisiau i fod yn faer ar ranbarth gorllewin Lloegr, gyda Mary Page o’r Blaid Werdd yn drydydd.
Llwyddodd y blaid i ddal Gogledd Tyneside yn ras y maer yno, er dim ond o fwyafrif o 444 ar y blaen i Reform oedd yn yr ail safle.
Dywedodd y Ceidwadwyr y byddai ASau Llafur yn “cwestiynu arweinyddiaeth” Syr Keir Starmer ar ôl buddugoliaeth Reform yn yr isetholiad.
Prif Lun: PA