
Prosiect newydd yn archwilio'r Cymry â gwreiddiau Eidalaidd
Mae prosiect creadigol newydd wedi ei sefydlu yn archwilio hanes a straeon y gymuned Gymreig-Eidalaidd yn ne Cymru.
‘Perthyn’ oedd syniad yr artist o Gaerdydd, John Meirion Rea.
Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan awydd John i ddeall mwy am ei dreftadaeth Eidalaidd ei hun, ac mae e wedi cynnwys hanes ei deulu, a oedd yn wreiddiol o Frosinone, rhwng Rhufain a Napoli.
Mae cyfenw John yn datgelu ei wreiddiau Eidalaidd. Ei hen dad-cu, Emiddio Rea, oedd y cyntaf i ymfudo i dde Cymru, ynghyd â hen fam-gu John, Santa.
“Fe wnaethon nhw deithio o fywyd tlawd yng nghefn gwlad Arpino, yn ardal Frosinone yn ne’r Eidal, i Lundain i ddechrau, gan ymgartefu yn Nhonypandy yng Nghymoedd de Cymru ar droad yr 20fed ganrif,” meddai John.
Roedd penderfyniad cyndadau John i ymfudo yn un stori ymysg llu o Eidalwyr wnaeth ddod i Gymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Daeth Cymoedd de Cymru yn adnabyddus am Bracchi’s, y caffis, a’r siopau hufen iâ gafodd eu hagor gan ymfudwyr Eidalaidd y cyfnod.
‘Rhan ohonof ‘dw’i prin yn ei ‘nabod.’
Wrth esbonio yr hyn wnaeth ei ysgogi i sefydlu Perthyn, dywedodd John Meirion Rea: “Er fy mod yn teimlo’n Gymro 100%, ‘dw’i wastad wedi bod yn ymwybodol o fy achau Eidalaidd.”
“Rwy’n gweld y daith hon fel ymgais i ddarganfod eu stori nhw yn ogystal â’r rhan ohonof ‘dw’i prin yn ei ‘nabod.”

Mae John yn dweud ei fod yn awyddus i ddarganfod pa ddylanwad mae'r mudo hwn wedi'i gael, ac yn parhau i'w gael, ar ddiwylliant Cymru.
Dros gyfnod o 10 mis, fe wnaeth John ymchwilio nid yn unig i'w hanes teuluol ei hun, ond fe gysylltodd â chymunedau lleol yn ne Cymru gyda’u straeon eu hunain.
Mae e wedi curadu casgliad o wahanol straeon, sydd ar-lein, ond maen nhw hefyd wedi eu harddangos yng nghanolfan YMa ym Mhontypridd.
Cafodd Perthyn ei ddatblygu gyda chefnogaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.