Grŵp cerdded awyr iach yn 'gwella lles a mynd i'r afael ag unigrwydd'
Grŵp cerdded awyr iach yn 'gwella lles a mynd i'r afael ag unigrwydd'
Criw o bobl yn cwrdd, rhai am y tro cyntaf i gerdded llwybr Castell Coch ger Caerdydd.
Mae'r grŵp cerdded ymhlith nifer ar draws y wlad a gafodd eu sefydlu i wella lles a mynd i'r afael ag unigrwydd trwy gymdeithasu yn yr awyr iach.
"Fi wastad wedi hoffi cerdded. Roedd fy rhieni yn lico bod mas yn yr awyr agored yn cerdded."
Un sy'n arwain grwpiau cerdded tebyg ar draws y Cymoedd yw Lee Williams.
"Mae'n newid y ffordd mae pobl yn meddwl. Maent yn meddwl nad ydynt yn gallu gwneud hyn a llall.
"Wrth fynd mas a siarad a phobl eraill maent yn sylwi faint maen nhw'n gallu gwneud.
"Ni'n cymryd beth nad ydynt yn gallu gwneud."
Cynnig mwy o weithgareddau tebyg yn y gymuned sy'n gallu gwella lles pobl sy'n stryglo gyda'u hiechyd meddwl yw bwriad strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru.
Trwy ganolbwyntio ar ymyrraeth cynnar heb oedi y gobaith hirdymor yw y bydd hynny'n helpu i leihau'r nifer o achosion iechyd meddwl difrifol ac felly, lleihau'r straen ar y system iechyd.
"We have the All Wales Open Access: 111, press 2. We already have social prescribing and groups that address isolation.
"Where we need to be now is when somebody goes in and asks for help that they get to sit down and have a chat with somebody the same day, almost immediately.
"A bit of reassurance and a plan of what to do next."
Er gwaethaf cefnogaeth brwd o fewn y sector mae rhai yn ymwybodol bod yna ofyn i wneud mwy pan fod cyllidebau'n dynn.
"Dydy'r addo ddim yn ddigon. Rydyn ni angen gweld y canlyniadau o'r ymrwymiadau.
"Mae angen arweinyddiaeth clir, cyllid a chysondeb."
Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn dros £800 miliwn yn barod yn ôl Llywodraeth Cymru.
Y cam nesaf yw sicrhau bod yr adnoddau ar gael i alluogi pobl sydd angen help i fanteisio ar gyfleoedd tebyg mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.