Newyddion S4C

O'r meic i'r mynydd: Y cyflwynydd Richard Rees yn gwirfoddoli i dîm achub

ITV Cymru
Mynydd / Richard Rees

Mae angen i gerddwyr baratoi yn well wedi cynnydd sylweddol mewn galwadau achub mynydd y llynedd, yn ôl gwirfoddolwyr.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos fod y timau achub mynydd Cymru a Lloegr wedi cael eu galw i roi cymorth bob dydd yn 2024.   

Un sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda thîm achub mynydd Aberhonddu ers tair blynedd a sydd wedi gweld y cynnydd yw’r cyflwynydd radio, Richard Rees. 

“Dwi’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn denu pobl ifanc a mae hynny’n braf, ond y drafferth yw os ydych chi heb baratoi mae’n gallu bod yn hynod o beryglus," meddai.

Dywedodd fod Tîm Achub Mynydd Aberhonddu wedi derbyn 40 o alwadau yn barod eleni; nifer ohonynt ar fynydd poblogaidd Pen y Fan. 

"Fe es i i gwrdd â phobl i'w dychwelyd oddi ar fynydd Pen y Fan wrth iddynt fynd i weld yr haul yn machlud neu’n gwawrio, sy’n golygu eu bod nhw ar y mynyddoedd yn nhywyllwch y nos."

Mapiau 'annibynadwy'

Awgrymodd Richard fod angen ystyried y tywydd oherwydd gall newid yn gyflym.  

“Mae’n rhaid paratoi o ran y ffordd rydych chi’n gwisgo, cael dillad i amddiffyn rhag y glaw, esgidiau addas a chario ychydig o ddŵr a bwyd.” 

Mae’r cynnydd mwyaf o alwadau ymysg y grŵp oedran 18-24 lle y gwnaeth y galwadau achub ddyblu o 166 yn 2019 i 314 yn 2024.  

Yn ôl Richard Rees, mae llawer o gerddwyr yn dibynnu ar fapiau digidol a chysylltiad â’r we i ddod o hyd i’w ffordd sy’n gallu bod yn annibynadwy. 

“Bydden i’n awgrymu yn gryf iawn os ydych chi’n mynd i gerdded mewn ardal arbennig, i gael map papur o’r ardal yna ac edrych arno fe’n fanwl cyn i chi fynd, mynd ag e gyda chi a bod chi’n gwybod yn union sut i ddefnyddio fe," meddai.

Os ydych chi yn mynd i drafferth mae timau achub mynydd ar gael 24 awr o’r flwyddyn, trwy’r flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.