Carcharu menyw o Lantrisant am dwyll £140,000 yn erbyn ei chyflogwr
Mae menyw o Lantrisant wedi ei charcharu am dwyll gwerth £140,000 yn erbyn ei chyflogwr.
Ym mis Medi 2023, fe wnaeth cwmni Eftec Ltd ddarganfod anghysondebau mewn taliadau yn gysylltiedig â Ms King, a oedd yn Rheolwr Cyllid iddynt.
Daeth i'r amlwg ei bod wedi bod yn cuddio taliadau i'w chyfrif personol.
Fe arweiniodd hyn at golled sylweddol o dros £140,000 i'r cwmni.
Wedi iddi gael ei diswyddo, fe gafodd Ms King ei harestio a'i chyhuddo o dwyll.
Plediodd yn euog i dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddiwedd Mawrth.
Cafodd ei dedfrydu ddydd Iau i garchar am 32 mis.
Bydd cais yn ael ei wneud ar gyfer y Ddeddf Enillion Troseddau er mwyn ceisio adennill colledion Eftec Ltd.