Newyddion S4C

Cwest yn clywed fod dyn o Gaernarfon wedi marw 'o achosion annaturiol'

Ffordd Maes Barcer

Mae cwest i farwolaeth dyn yng Nghaernarfon wedi clywed ei fod wedi marw o achosion annaturiol.

Wrth agor y cwest i farwolaeth Dylan Wyn Evans, 33 oed, yng Nghaernarfon fore dydd Gwener, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mr Evans wedi ei ddarganfod yn farw ar 26 Ebrill yn ei gartref yn y dref.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw am 12:11 i ymateb i farwolaeth dyn mewn cyfeiriad ar Ffordd Maes Barcer.

Fe wnaeth yr heddlu gyhoeddi i ddechrau bod ymchwiliad troseddol ar y gweill, cyn cyhoeddi'n ddiweddarach nad oedd y farwolaeth yn un amheus.

Cafodd marwolaeth Mr Evans ei chadarnhau gan barafeddyg meddai'r crwner, ac fe gafodd ei adnabod yn ffurfiol gan Martin Thomas.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan Batholegydd Fforensig y Sywddfa Gartref, Matthew Cieka.

Dywedodd y crwner bod ymchwiliadau i'r farwolaeth yn parhau ond "ei fod yn fwy tebygol na pheidio" bod Mr Evans wedi marw o achosion annaturiol.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.